Cychwynnwch ar Yrfa Gyffrous ym maes Teithio! Mae’r sector teithio’n gryfach nag erioed, gyda 100 miliwn o swyddi yn fyd eang. Nawr ydy’r adeg delfrydol i gychwyn eich taith yn y diwydiant deinamig hwn!
Mewnwelediadau i’r Sector
• Effaith fyd eang: Teithio a thwristiaeth ydy un o ddiwydiannau mwyaf y byd, yn gyfrifol am 1 o bob 10 swydd yn fyd eang.
• Cynnydd Cyflym: Hwn ydy’r sector cyflymaf ei gynnydd ym Mhrydain, ac amcanir ei fod werth dros £257 biliwn a bydd yn cynorthwyo bron i 3.8 miliwn o swydd erbyn 2025.
• Ffyniant Domestig: Gyda chynnydd "staycations"(gwyliau nes adref), mae twristiaeth domestig yn ffynnu gan greu hyd yn rhagor o gyfleoedd.
Bydd ein cymwysterau teithio yn cynnig llwybrau i mewn i addysg uwch a’r gweithlu. Mae cyrsiau Lefel 3 yn cynnig pwyntiau UCAS ac mae ein profiad o ddysgu strwythuredig yn cynorthwyo eich datblygiad a’ch cynnydd, p’un ai i faes astudiaeth bellach neu i’ch gyrfa ddelfrydol.
Trosolwg o Gwrs Lefel 2 Mae ein cwrs Lefel 2 yn cyfuno rhagarweiniad i waith Criw Caban a Theithio a Thwristiaeth, perffaith ar gyfer y rhai sydd am symud ymlaen i Lefel 3 neu gychwyn gyrfa yn y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
• Dysgwyr Ifanc (16-18): Ymgymryd ag astudio rhaglen lawn amser
• Oedolion: Newid gyrfa neu gychwyn mewn diwydiant newydd.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
• Iechyd a Diogelwch mewn gwaith Hedfan ar Awyrennau
• Gweithio fel Criw Caban
• Delio gyda Theithwyr ar Fwrdd Awyren
• Y Diwydiant Twristiaeth
• Atyniadau Ymwelwyr Adeiledig
• Dod i wybod am Feysydd Awyr a Chwmnïau Awyrennau
• Gwasanaeth Cwsmeriaid ym maes Teithio a Thwristiaeth
• Sefyllfaoedd o Argyfwng mewn Awyren
Beth fydda i'n ei ddysgu?
4 TGAU gradd D neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 1 cyfwerth
Asesiad
I ennill Diploma Lefel 2 Criw Gweini mewn Awyren rhaid i chi gwblhau ystod o asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Bydd yr asesiadau’n cynnwys sgiliau ymarferol, cwestiynau llafar, gwaith aseiniad a chwestiynau ysgrifenedig. Byddwch yn derbyn adborth ar eich cynnydd drwy gydol y cwrs.
Dilyniant Gyrfa
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallwch geisio am swyddi yn y diwydiant teithio. Mae llawer o’n cyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i weithio i gwmniau awyrennau a meysydd awyr.
Nodiadau Pellach
Purchase of Kit and/or Education Trips is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied. A tailored individual package will be developed for you depending on which course you have chosen