Bydd y cymhwyster Gwaith Barbwr hwn yn datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau fel gallwch chi gynghori a thrafod gyda dynion pa fath o steil toriad gwallt maen nhw moyn, a sut i siapio blew'r wyneb, ond yr un mor bwysig, beth sy'n eu siwtio. Byddwch hefyd yn dysgu sut i weithio mewn dull diogel drwy'r holl wasanaeth i'ch diogelu chi a'i cleientiaid.
Ni fydd angen i chi feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol cyn astudio ar gyfer y cymhwyster hwn er efallai y gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Gwaith Barbwr. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Mae angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn.
Defnyddir ystod o ddulliau i’ch asesu sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau e-bortffolio, tystiolaeth theori, holi llafar ac arholiadau allanol ar-lein.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr.