Byddwch yn astudio unedau sy’n adlewyrchu anghenion proffesiwn y Barbwr, tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa o fewn y sector hwn sef:
Gwasanaethau tylino’r pen neu Batrymu’r Gwallt (a dibynnu ar y campws), Technegau traddodiadol a modern gwaith barbwr, yr ymarferol a’r theori, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch
Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D yn cynnwys iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg/Rhifedd neu gymhwyster Lefel 1 cwrs sgiliau sector yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Lefel 1 yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Gwaith Barbwr. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Defnyddir ystod o ddulliau I asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a phortffolio Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i gwrs Gwaith Barbwr Lefel 3, Trin Gwallt Lefel 2 a 3.