Mae'r Diploma Lefel 2 yn cynnwys yr unedau canlynol:
Ymwybyddiaeth o amgylchedd peirianneg, technegau peirianneg, egwyddorion Peirianneg, Egwyddorion trydanol ac electronig, Dulliau profi trydanol ac electronig, Systemau a dyfeisiau trydanol ac electronig Yr uned NVQ lefel 1 yw “Cydosod Cylchedau Electronig”.
Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd, Iaith Saesneg/Cymraeg (Mamiaith) a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Lefel 1 ynghyd â detholiad priodol o unedau. Cewch eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Asesir y cwrs drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys arholiad ar-lein, prosiectau ymarferol, aseiniadau, astudiaethau achos a gwaith cwrs. Bydd eich arholiad a'ch portffolio yn cael eu graddio â gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, cewch gyfle i symud ymlaen i lefel 3 mewn Peirianneg, ond mae hynny’n ddibynnol ar fwrdd graddio a chyfweliad. Mae llawer o ddysgwyr wedi ennill prentisiaethau ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus.
You will be required to purchase Uniform (T Shirt and Trousers), safety boots & safety glasses (approx £55). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.