Bydwch yn astudio unedau sy’n adlewyrchu anghenion y proffesiwn Arlwyo a hefyd eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa yn y sector hwn. Byddwch yn astudio: Agweddau o Letygarwch ac Arlwyo, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch a Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Bydd ein cyrsiau Lletygarch ac Arlwyo yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn y diwydiant. Cewch brofiad uniongyrchol ac ymarferol o weithio yn ein ceginau proffesiynol a’n bwytai. Mae ein bwytai hyfforddi ar agor i’r cyhoedd a bydd hyn yn gyfle gwych i chi brofi gweithio yn y diwydiant. Pan ddaw hi’n amser i chi chwilio am waith cyflogedig, byddwch eisoes wedi cael profiad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol.
Bydd angen 4 TGAU graddau A*- D yn cynnwys iaith Saesneg/Cymraeg a Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Hanfodol perthnasol neu gymhwyster sgiliau sector Lefel 1 neu Sgiliau Hanfodol yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai hefyd y bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs; darperir rhestr lawn. Bydd gofyn i chi gael eich asesu o ran llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Efallai cewch eich gwahodd i arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L1 i L2 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol.
Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys asesu parhaus, drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad.
Wrth i chi ddatblygu, gallwn eich arwain at gwrs uwch ei lefel neu’ch helpu os ydych yn dymuno symud yn syth i swydd
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Chef Uniform - £55.06, Restaurant Materials - £26.15, Knife Set - £40) (Suggested Optional - Text books, Hand Blender, Mixer, Coloured Hat and Apron). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.