AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg

Cwrs dwys ydy hwn a fydd yn cyflwyno a datblygu’ch sgiliau mewn gweinyddu cyllid. Nod y cwrs ydy darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i’ch galluogi i ddatblygu’ch potensial ac i’ch paratoi ar gyfer symud ymlaen i naill ai gwrs Lefel 4 mewn Cyfrifeg neu i gyflogaeth.


Mae’r cwrs yn cynnwys Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn symud ymlaen i Lefel 3 mewn Cyfrifeg.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

AAT Lefel 2


O fewn cwricwlwm Lefel 2, byddwch yn dysgu prosesu trafodion cadw cyfrifon, rheoli cyfrifon, dyddlyfrau a’r system fancio, gweithio’n effeithiol ym maes cyfrifeg a chyllid, costio sylfaenol gyda thaenlenni a chyfrifon cyfrifiadurol.
AAT Lefel 3
O fewn cwricwlwm Lefel 3, byddwch yn dysgu prosesau cymhleth swyddog cyllid, yn cynnwys cyfrifon terfynol ar gyfer unig-fasnachwyr a phartneriaethau, adroddiadau ac adenillion, moeseg proffesiynol a meddalwedd taenlenni. Mae’r lefel bron gyfwerth â Lefel A neu uwch ac yn werth pwyntiau UCAS.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol; fodd bynnag mae safon da o lythrennedd a rhifedd yn hanfodol.

Asesiad

Asesir pob maes dysgu’r cymhwyster hwn drwy ddefnyddio Asesiadau Cyfrifiadurol (CBA) wedi’u llunio gan AAT a allai fod ar ffurf prawf (CBT) neu brosiect (CBP).

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg a bydd hyn yn caniatáu i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg ar ôl cwblhau asesiad coleg yn llwydddiannus.

Nodiadau Pellach

AAT registration and membership fees are payable for this course. These fees will be discussed at interview stage.

I ymuno â'r cwrs hwn ar gyfer Medi 2023, ewch i un o'n campysau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm.

Bydd ein ceisiadau ym mis Medi 2024 yn agor ar 1 Tachwedd 2023

Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Level 3
Modd:Full Time
Dyddiad:04/09/2023
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:15F305NA
Ffioedd
FT Registration Fee: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau