Mae hwn yn gymhwyster perthnasol i alwedigaeth ac mae'n cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol.
Mae'r pedair uned orfodol yn cynnwys y wybodaeth ymarferol a damcaniaethol sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaethau pen dull Indiaidd a monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon, i sicrhau bod pob triniaeth yn cael ei chynnal gydag iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth. Mae'r ddwy uned orfodol sy'n weddill yn darparu'r sgiliau ehangach sydd eu hangen i fod yn therapydd llwyddiannus ym maes gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau sy'n ymwneud â harddwch a hyrwyddo ac ar gyfer gwerthu cynnyrch a gwasanaethau. Mae'r ddwy uned hyn yn mynd i'r afael â'r angen am i therapydd llwyddiannus ddeall pwysigrwydd manwerthu a gofal am gleientiaid.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer rôl fel therapydd tylino arbenigol yn y sector gwallt, harddwch neu therapi cyflenwol mewn amrywiaeth o gyd-destunau:
- Clinig therapi cyflenwol
- Salon harddwch
- Salon gwallt
- Lleoliadau annibynnol/symudol/yn y cartref
- Sba dydd neu sba cyrchfan
Bydd y cymhwyster VTCT hwn mewn Tylino Pen dull Indiaidd ar lefel 3 yn eich cymhwyso i ddod yn therapydd arbenigol tylino pen dull Indiaidd, gan ganiatáu i chi gasglu tystiolaeth mewn amgylchedd gwaith realistig neu real.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Tylino Pen dull Indiaidd, sut i hyrwyddo a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau, gofal o'r cleient a chyfathrebu, a'r Iechyd a Diogelwch sydd ynghlwm wrth yr uned hon.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Does yna ddim angen i chi gael unrhyw gymwysterau rhagofyniad ffurfiol cyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn, er yr argymhellir bod gennych gymwysterau TGAU graddau A*- C neu Lefel 3 Anatomeg a Ffisioleg neu gymwysterau Lefel 2/3 cyfwerth perthnasol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr sydd ag angerdd tuag at y diwydiant Therapi Cyflenwol. Cewch wahoddiad i gymryd rhan mewn gweithgareddau arweiniol cyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad am y cwrs ei hun. Bydd angen gwisg ac offer perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; a bydd rhestr lawn yn cael ei darparu i chi.
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu ar eich sgiliau ymarferol o weithio gyda chleientiaid, y bydd yn rhaid i chi efallai eu darparu. Efallai y byddwch yn cymryd rhan mewn digwyddiadau hyrwyddo/marchnata i gasglu tystiolaeth ymarferol.
Mae yna arholiadau ar-lein sy'n gysylltiedig â'ch gwybodaeth ymarferol ac am anatomeg a ffisioleg perthnasol.
Efallai y defnyddir hefyd gwestiynau ysgrifenedig neu lafar i gasglu tystiolaeth o'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth.
Dilyniant Gyrfa
Sba cyrchfan, Salonau, Llongau Pleser, Therapydd teithiol