Mae’r cwrs yn creu portffolio o sgiliau lluniadu a phaentio ac yn gweithio mewn modd arbrofol gydag ystod o gyfryngau a thechnegau mewn dimensiwn 2D a 3D, Byddwch yn caffael sail rhagorol mewn technegau traddodiadol yn ogystal â thechnoleg cyfrifiadurol, Cewch eich annog i archwilio a datblygu syniadau celf a dylunio a chreu canlyniadau effeithiol. Byddwch yn gweithio dwy briffiau gosodedig i orffen unedau cyffredinol Celf a Dylunio gan orffen mewn prosiect i arwain at 3 llwybr a gynigir o fewn dilyniant i’r cwrs 1 flwyddyn hwn.
Celfyddydau Graffig: Mae hyn yn delio â dylunio graffig, ffotograffiaeth, darlunio, paentio a gwneud printiadau. Ffasiwn a thecstilau: sy’n delio â thorri patrwm a thechnegau creu ffasiwn a gwisgoedd, patrwm arwyneb, trin ffabrig, papur a gwneud printiadau mewn tecstilau, darlunio a dylunio. Dylunio 3D: mae hyn yn cynnwys celfi, cynnyrch, dylunio gofodol a theatr, technegau cyflwyniadau graffig a thechnegau crefft dylunio.
5 TGAU gradd C neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith) neu gymwysterau Lefel 2 cyfatebol.
Asesir aseiniadau ymarferol ac unedau ysgrifenedig o waith yn barhaus dwy gydol y cwrs hwn. Asesir pob uned o waith yn fewnol ai’u safoni’n allanol. Ar ôl cwblhau’r cwrs mae’r graddau terfynol o Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth yn cael eu trosi yn bwyntiau UCAS yn barod ar gyfer eich cais ar gyfer y llwybr i Addysg Uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celf a Dylunio
Rydyn ni’n gofyn am ffi stiwdio o £110, ar gyfer cit celf ac adnoddau perthnasol i’r cwrs. Trafodwch hyn adeg y cyfweliad gyda thiwtor at ôl i chi wneud cais.












