Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Diploma Lefel 3 mewn Busnes

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn busnes a sut mae'n gweithio. Mae Diploma Sylfaen BTEC mewn Busnes yn gwrs sy’n rhoi cipolwg ichi ar y byd gwaith ac yn rhoi cymhwyster ichi sydd gyfwerth â 3 Safon Uwch Gyfrannol neu Un a hanner Safon Uwch.


Bydd hyn wedyn yn symud ymlaen i Ddiploma Estynedig BTEC mewn Busnes ym mlwyddyn 2 sy'n cyfateb i 3 chymhwyster Safon Uwch

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o fusnes ac yn cael y cyfle i gymhwyso eich dysgu mewn ffordd ymarferol. Ymhlith yr unedau BTEC a astudir mae Archwilio Busnes, Marchnata, Cyllid Personol a Busnes, Rheoli digwyddiadau, Recriwtio a Dethol a cheisio am fusnes newydd. Hefyd, byddwch yn magu hyder drwy ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol a byddwch yn gallu cymhwyso'r sgiliau hyn i gyfnodau o brofiad gwaith.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 5 TGAU graddau A*- C neu gymhwyster galwedigaethol Lefel 2 perthnasol gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg/Rhifedd.


Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Yn ystod y cyfweliad hwn byddwch yn sefyll asesiad mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn pennu a oes angen unrhyw gymorth arnoch.

Asesiad

Asesir yn bennaf drwy asesiadau mewnol ar ffurf aseiniadau a gwaith ymarferol gyda rhai asesiadau ac arholiadau dan reolaeth a osodir yn allanol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i'r Diploma Estynedig mewn Busnes neu chwilio am waith ym maes Cyfrifeg, Marchnata a Rheoli Hyfforddeion. Ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig mewn Busnes byddwch yn gallu gwneud cais am gyrsiau gradd anrhydedd Addysg Uwch mewn ystod eang o gyrsiau Busnes.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:15F301YA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a chyfarwyddwyr cyllid:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cyfarwyddwyr Marchnata a Gwerthu:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cyfarwyddwyr Hysbysebu a Chysylltiadau Cyhoeddus:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr a chyfarwyddwyr pryniant:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cyfrifyddion siartredig ac ardystiedig :
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol maes cysylltiadau cyhoeddus:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau