Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Bydd y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer o fewn lleoliad gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Mae'r cwrs yn cydbwyso cymysgedd o ymarfer a theori i ddatblygu'r dysgwyr ym mhob maes ymarfer o ran y blynyddoedd cynnar. Mae’r cwrs wedi’i rannu’n 2 adran – Yr Elfennau Craidd a’r Elfennau Ymarfer a Theori, a gyflwynir dros gyfnod o 2 flynedd. Byddwch yn astudio am 3 diwrnod yn y coleg a 2 ddiwrnod mewn Lleoliad Gwaith yn ystod y cyfnod hwn. Ac y mae hyn yn gyfwerth â 3 Lefel A.


Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer y rhai sy'n gweithio, neu'n awyddus i weithio mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 mlwydd oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Bydd gofyn i chi wneud cais am brawf DBS llawn a rhaid i hyn fod ar y gwasanaeth diweddaru, a bydd hyn ynghyd â chwblhau ffurflen addasrwydd ar gyfer lleoliad gwaith.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

• Hyrwyddo ymarfer craidd mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant • Hyrwyddo chwarae, dysgu, twf a datblygiad • Hyrwyddo maeth a hydradu yn y blynyddoedd cynnar • Ymateb i salwch plentyndod, pla/haint, afiechyd ac imiwneiddio - yn ogystal ag unedau opsiynol.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU Gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf. Gellir trafod cymwysterau cyfwerth eraill yn y cyfweliad neu 4 TGAU Gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf ac wedi llwyddo i gwblhau

Asesiad

• Set o dasgau wedi'u gosod yn allanol, wedi'u marcio'n fewnol • Portffolio o dystiolaeth • Trafodaeth gyda'r un sy’n asesu • Arholiad allanol • Ymchwiliad estynedig wedi'i osod a'i farcio'n allanol.

Dilyniant Gyrfa

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i swyddi o fewn rôl Lefel 3 neu symud ymlaen i astudio Addysg Uwch. (Mae'r cymhwyster yn golygu pwyntiau UCAS). Gallai’r swyddi gynnwys: ymarferydd meithrinfa, ymarferydd sesiynol Cylch Chwarae ‘Cylch’, Ymarferydd Cynorthwyol Cyfnod Sylfaen, ymarferydd Dechrau’n Deg, Gweithiwr Cefnogi/Teulu Dechrau’n Deg ayb.

Nodiadau Pellach

Mae angen i ddysgwyr sy’n mynychu cyrsiau Gofal a Gofal Plant brynu crys polo i’w wisgo ar leoliad gwaith ac i dalu am wiriad DBS.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Aberdâr
Cod y Cwrs:01F302AB
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd