Gan ddefnyddio ein cyfrifiaduron o safon uchel yn benodol ar gyfer gemau cyfrifiadur, byddwch yn archwilio tueddiadau’r diweddaraf diwydiant o ran technoleg a dylunio mewn diwydiant sy’n datblygu sef y diwydiant celf, dylunio ac animeiddio ar gyfer gemau cyfrifiadur. Mae ennyn y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiannau digidol cyflym hyn yn nodwedd allweddol o'r cwrs. Byddwch yn datblygu eich sgiliau dylunio digidol technegol drwy amrywiaeth o brosiectau gwaith cwrs.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol ichi i'ch galluogi i ddefnyddio technegau traddodiadol a digidol drwy friffiau gwaith cwrs sydd wedi'u cynllunio i ddilyn tueddiadau'r diwydiant. Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys sgiliau cyfathrebu, cydweithredu, creadigrwydd a meddylfryd dylunio.
685 TGAU A * - C gan gynnwys pwnc cysylltiedig â Chelf, Mathemateg a Saesneg/Cymraeg neu Ddiploma Lefel 2 gyfwerth ar radd teilyngdod neu'n uwch mewn pwnc creadigol, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd lefel 2.
Gwahoddir pob ymgeisydd i ddod i gyfweliad a chyflwyno portffolio o dystiolaeth yn seiliedig ar ddylunio.
1012Byddwch yn cael eich asesu mewn amryw o ffyrdd, a allai gynnwys prosiectau gwaith cwrs unigol, prosiectau grwp, cyflwyniadau ac asesu parhaus yn y dosbarth.
Bydd y cwrs yn cefnogi dyheadau eich gyrfa ac yn helpu i'ch paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth posibl neu addysg bellach/uwch mewn meysydd gan gynnwys cyfryngau creadigol a digidol. Ar ddiwedd y diploma blwyddyn byddwch yn meddu ar sgiliau dylunio digidol a thraddodiadol hanfodol, a phortffolio cryf sy'n dangos eich potensial mewn celf, animeiddio a dylunio ar gyfer gemau cyfrifiadur. Ar ôl cwblhau'r cwrs blwyddyn hwn yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu'n uwch, gallwch wneud cais i symud ymlaen i'r diploma estynedig a chyflawni cymhwyster cyfwerth â 3 Safon Uwch. Wedi ichi gwblhau’r diploma estynedig, cewch gyfle i symud ymlaen i Astudiaethau Sylfaen mewn Celf a Dylunio ar Lefel 3/4 i ddatblygu eich sgiliau ymhellach neu symud ymlaen i addysg uwch, gan astudio cyrsiau fel celf gemau cyfrifiadur, dylunio gemau cyfrifiadur, 2D/CGI/animeiddio stop-symud, dylunio graffig, hysbysebu, VFX ac ati, neu gyflogaeth.