Ymhlith pynciau’r cymhwyster mae’r materion cyfoes canlynol perthnasol i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru:
• Egwyddorion gofal ac arferion diogel o fewn canlyniad gofal wedi’i ffocysu ar yr unigolyn • Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar draws rhychwant oes a’r modd y mae’r rhain yn effeithio ar ganlyniadau, gofal ac anghenion cymorth • Hyrwyddo hawliau unigolion ar draws rhychwant oes • Cynorthwyo unigolion mewn perygl i gyflawni eu canlyniadau dymunol • Mae’n orfodol hefyd i gwblhau cyfanswm o 100 awr ar leoliad gwaith ac ymglymiad yn y sector. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau academaidd drwy gydol y cwrs.
5 TGAU gradd C neu uwch (yn cynnwys Mathemateg neu Rhifedd a Iaith Saesneg neu Cymraeg Mamiaith neu 4 TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg a chwblhau L2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr basio: • Tri asesiad di-arholiad a gaiff eu sefyll drwy gydol y cymhwyster. Caiff y rhain eu gosod yn allanol a’u marcio yn y ganolfan. • Un arholiad wedi'i osod yn allanol, wedi'i farcio'n allanol.
Gallai cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, gan gynnwys lleoliad gwaith ac ymgysylltu â’r sector am gyfanswm o 100 awr, alluogi dysgwyr i symud ymlaen i: • Cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3 ail flwyddyn - Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau. • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc), ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n dymuno cael gwaith.
Mae angen i ddysgwyr sy'n mynychu cyrsiau Gofal a Gofal Plant brynu crys polo gwerth £11.00 i'w wisgo yn y lleoliad ac i dalu am wiriad DBS a gwasanaeth diweddaru'r DBS.
-copy.jpg)





