Mae pynciau’r cymhwyster yn cynnwys y materion cyfredol canlynol sy’n ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru:
• Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel yn y sector gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau • Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar draws eu hoes a sut mae’r rhain yn effeithio ar ganlyniadau, anghenion gofal a chymorth • Hyrwyddo hawliau unigolion ar draws eu hoes. • Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni eu canlyniadau dymunol • Mae lleoliadau gwaith ac ymgysylltu â'r sector am gyfanswm o 100 awr hefyd yn elfennau gorfodol o'r cwrs Hefyd, byddwch yn datblygu sgiliau academaidd drwy gydol y cwrs.
5 TGAU Gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg. Gellir trafod cymwysterau cyfwerth eraill yn y cyfweliad.
4 TGAU Gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg a chwblhau L2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc) yn llwyddiannus. TGAU Gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg. Gellir trafod cymwysterau cyfwerth eraill yn y cyfweliad. Gwiriad DBS llwyddiannus a chais ar gyfer gwasanaeth diweddaru’r gwiriad DBS.
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr basio: • Tri asesiad di-arholiad a gaiff eu sefyll drwy gydol y cymhwyster. Caiff y rhain eu gosod yn allanol a’u marcio yn y ganolfan. • Un arholiad wedi'i osod yn allanol, wedi'i farcio'n allanol.
Gallai cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, gan gynnwys lleoliad gwaith ac ymgysylltu â’r sector am gyfanswm o 100 awr, alluogi dysgwyr i symud ymlaen i: • Cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3 ail flwyddyn - Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau. • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc), ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n dymuno cael gwaith.
Mae angen i ddysgwyr sy'n mynychu cyrsiau Gofal a Gofal Plant brynu crys polo gwerth £11.00 i'w wisgo yn y lleoliad ac i dalu am wiriad DBS a gwasanaeth diweddaru'r DBS.