Bydd y dysgwr yn gallu cael mynediad i gyfleoedd i ddatblygu a chaffael ystod o sgiliau galwedigaethol, gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn perfformio ystod o wasanaethau proffesiynol megis:
• electrotherapi i’r wyneb a’r corff er mwyn cael canlyniadau therapiwtig a gwelliant
• tylino’r corff
• unedau ychwanegol perthnasol i’r diwydiant
O fewn y cymhwyster hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn ac ymarfer gweithio ym maes y diwydiant harddwch: iechyd a diogelwch, gofalu am y cleient a chyfathrebu a chyfrannu at redeg busnes therapi harddwch yn effeithiol. Byddwch hefyd yn datblygu sail gwybodaeth a dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg sy’n berthnasol i’r sgiliau ymarferol a ddysgwyd yn ystod y cwrs.
Bydd angen Diploma Lefel 2 neu gyfwerth mewn Therapi Harddwch yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai hefyd, bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L3 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol
Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol a phortffolio Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i feysydd amrywiol a niferus y dwydiant iechyd a harddwch, agor eich busnes eich hun neu symuid ymlaen i raglen lefel 4.
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Uniform - £35, Beauty Kit - £61.15). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.