Byddai llwybr VRQ yn dilyn cwrs Tystysgrif Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg. Mae hyn hefyd yn cynnwys dulliau asesu mewnol ac allanol ond cwrs ymarferol ydy e yn bennaf.
Mae unedau VRQ yn cynnwys:
• Iechyd Amgylcheddol a Diogelwch
• Egwyddorion Mecanyddol
• Uwch waith Turnio
• Mathemateg
Byddwch hefyd yn astudio cwrs Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg Ymarferol (PEO) sy’n gwneud defnydd llawn o’n gweithdai mecanyddol sydd heb eu hail yn y sector. Yng nghwrs PEO, byddech yn astudio:
• Cynhyrchu cydrannau gan ddefnyddio technegau ffitio â llaw
• Paratoi a defnyddio turnau ar gyfer gwaith turnio
• Paratoi a Defnyddio peiriannau melino
5 TGAU A*-C yn cynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg a Gwyddoniaeth neu gymhwyster Lefel 2 gyda’r detholiad priodol o unedau a’u graddau.
Gellir ystyried dysgwyr yn meddu ar radd D Iaith Saesneg mewn cyfweliad. Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad a chewch eich asesu mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Ymhlith dulliau asesu cymhwyster VRQ mae arholiad aml-ddewis ar-sgrîn ar gyfer yr uned orfodol ac asesiadau ymarferol a theori ar gyfer unedau opsiynol, asesiadau sy’n cael eu marcio gan y Ganolfan. Gosodir yr arholiad aml-ddewis ar sgrîn gan EAL (Saesneg fel Iaith Ychwanegol) a’i farcio gan EAL. Gosodir yr asesiad mewnol gan EAL a’i farcio gan aelodau o'r tîm cyflenwi yn y Ganolfan. O ran cymhwyster 2D CAD (Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur), mae’r cymhwyster yn cynnwys 2 asesiad ymarferol ac 1 papur atebion byr. Gosodir yr asesiad gan C&G a’i farcio gan aelodau o’r tîm cyflenwi yn y Ganolfan.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae cyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn nifer o ddisgyblaethau peirianneg. Mae llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i gwrs Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg. Mae llwybr clir drwyddo i statws corfforedig a siartredig. Mae gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch feddwl uchel o Ddiplomas Lefel 3.
O ddatblygu sgiliau ymarferol sylfaenol a dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau Peirianneg Mecanyddol, mae cyfleoedd cyflogaeth yn bodoli ym maes Creu Offer, Peirianneg Awyrofod a Modurol. Hefyd, cewch eich annog i chwilio am brentisiaethau o fewn y diwydiant perthnasol.
You will be required to purchase Uniform (T Shirt and Trousers), safety boots & safety glasses (approx £55). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.