Mae'r cymhwyster yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio'n effeithiol fel uwch-drinydd/uwch-steilydd gwalltiau gan gynnwys: iechyd a diogelwch, ymgynghori â'r cleient, torri o safon uwch, steilio, technegau lliwio a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau i gleientiaid
Mae'r unedau hyn i gyd yn rhai gorfodol.
Bydd y dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau drwy ddewis nifer o unedau opsiynol arbenigol sydd yn cynnwys: cywiro lliw gwallt a steilio gwallt priodferch.
Byddwch yn astudio: y gelfyddyd greadigol o dorri gwallt merched, sgil artistig lliwio gwallt; deheurwydd dychmygus steilio ac addurno gwallt, a sut i ddarparu help ymgynghorol effeithiol ar gyfer cydweithwyr.
Er mwyn datblygu’ch sgiliau ymhellach cewch gyfle i astudio trin gwallt ar gyfer priodas ac uned dechnegol ar gywiro lliw
Bydd angen Diploma Lefel 2 neu gyfwerth mewn Trin Gwallt yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai hefyd, bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L3 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol
Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau a fydd yn cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio ar-lein, tystiolaeth theori a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol ar-lein a phortffolios Sgiliau Hanfodol.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, gallwch chwilio am waith fel steilydd gwallt, addysgwr ar gyfer gwneuthurwyr, arddangosydd, gwaith arddangosfeydd a theledu, arbenigydd mewn lliwio gwallt neu fel technegydd.
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Uniform - £22). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.