Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ichi weithio'n gymwys fel uwch-ymarferydd yn y diwydiant ewinedd. Drwy gydol y cymhwyster hwn byddwch yn monitro ac yn cynnal arferion iechyd a diogelwch ac yn gosod a chynnal gwelliannau ewinedd gan ddefnyddio Hylif a Phowdwr a Gel Uwchfioled.
Er mwyn gwella eich sgiliau ymhellach, byddwch yn astudio'r unedau canlynol hefyd: Datblygu ystod o ddelweddau ewinedd creadigol; Cynllunio a chreu dyluniadau celf ewinedd; Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo; Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio defnydd lapio.
Hefyd, bydd gofyn ichi gwblhau: Lefel 3 Cyfathrebu, Lefel 3 Cymhwyso Rhif a Lefel 3 Gweithio gyda Phobl Eraill.
Bydd angen cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth mewn Trin Ewinedd yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai hefyd, y gofynnir i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Rydyn ni'n chwilio am ddysgwyr â diddordeb brwd yn y diwydiant Harddwch. Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau canllawiau cyn cychwyn y cwrs a fydd yn cynnwys cyflwyniad i'r cwrs. Bydd angen iwnifform a chyfarpar perthnasol ar gyfer y cwrs hwn; darperir rhestr lawn. Efallai gofynnir i chi arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L3 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol.
Asesir drwy arsylwi gwaith ymarferol, cwestiynau llafar, cwestiynau ysgrifenedig ac arholiadau a osodir yn allanol. Bydd angen i chi greu portffolio o dystiolaeth.
Mae hwn yn gymhwyster cydnabyddedig ar gyfer gweithio fel uwch dechnegydd ewinedd. Mae hefyd yn darparu llwyfan gadarn I ddysgu neu hyfforddiant pellach. Gallech symud ymlaen I gymwysterau galwedigaethol arbenigol VTCT ar Lefel 3 a 4
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Uniform - Approximately £35, Nail Kit - Approximately £230). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.