Bydd ein cyrsiau Lletygarch ac Arlwyo yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn y diwydiant.
Cewch brofiad uniongyrchol ac ymarferol o weithio yn ein ceginau proffesiynol. Byddwch yn astudio sut i baratoi a choginio ystod o brydau cymhleth tra’n ymgymryd â rôl goruchwylio o fewn tîm y gegin .
Cymhwyster Coginio Proffesiynol Lefel 2 ar gyfer y llwybrau Coginio Proffesiynol a Theisennau. Cymhwyster Lefel 2 Bwyd a Diod ar gyfer y llwybr Goruchwylio Bwyd a Diod yn ogystal â geirda gan gyflogwr a/neu diwtor blaenorol. Efallai bydd gofyn i chi gwblhau tasg sgiliau ymarferol.
Efallai cewch eich gwahodd i arddangos eich sgiliau ymarferol a'ch dawn er mwyn sicrhau mai symud o L2 i L3 ydy'r llwybr cywir i chi a'ch dyheadau gyrfaol.
Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys asesu parhaus, drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Byddwch yn sefyll arholiadau allanol a pharatoi portffolios Sgiliau Hanfodol.
Wrth i chi ddatblygu, gallwn eich arwain at gwrs uwch ei lefel neu’ch helpu os ydych yn dymuno symud yn syth i swydd. O gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallech gael gwaith fel is-oruchwylydd neu symud ymlaen i Addysg Uwch.
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Chef Uniform - £55.06, Restaurant Materials - £26.15, Knife Set - £40) (Suggested Optional - Text books, Hand Blender, Mixer, Stepped palette knife, Coloured Hat and Apron). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.