Fel rhan o'r cwrs, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau megis: • Anatomi a Ffisioleg • Hyfforddiant a Ffitrwydd • Asesu Risg • Profi Ffitrwydd ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer • Hyfforddi Chwaraeon • Datblygu Chwaraeon • Chwaraeon Tîm Ymarferol
Ymhlith y meysydd arbenigol mae’r canlynol: • Maethiad Chwaraeon • Anafiadau Chwaraeon • Rheolau, Rheoliadau a Dyfarnu • Ymarfer, Iechyd a Ffordd o Fyw • Seicoleg ar gyfer Perfformiad Chwaraeon • Hyfforddi Gweithgaredd Corfforol ac Ymarfer
5 TGAU gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 2 cyfwerth
I ennill Lefel 3 mewn Chwaraeon, rhaid i chi gwblhau asesiadau mewnol pob uned. Asesir y canlynol: • Sgiliau Ymarferol • Cwestiynu llafar • Gwaith Aseiniad • Cwestiynau ysgrifenedig Caiff pob uned eu hasesu a’u graddio a dyfernir gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallech wneud cais am gyrsiau Addysg Uwch. Gallech hefyd wneud cais am swyddi o fewn y sector.
• Mae’n ofynnol prynu Cit a/neu dalu am Ymweliadau Addysgu ar gyfer y cwrs hwn. Trafodwch hyn gyda thiwtor yn ystod y cyfnod cyfweld ar ôl i chi wneud cais.
• Datblygir pecyn wedi’i deilwra ar eich cyfer yn dibynnu ar y cwrs o’ch dewis.







