Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai

Lansiwch Eich Gyrfa yn y Gwasanaethau Diogelu mewn Lifrai gyda’n Cwrs Lefel 3! Lluniwyd y cwrs 2 flynedd llawn amser hwn ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed sy’n anelu am gyflogaeth yn sector y gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, boed yn swydd weithredol neu mewn swyddfa.


Mae ein cymhwyster Lefel 3 yn cynnig dealltwriaeth drylwyr o egwyddorion sector y gwasanaethau mewn lifrai, gan ganiatáu i chi ystyried gwahanol lwybrau gyrfaol. Byddwch yn ennill sgiliau trosglwyddadwy sy’n berthnasol i’r gweithle ac i astudiaeth bellach. Bydd y cymhwyster hwn yn: • Ffocysu ar astudio’r gwasanaethau mewn lifrai o fewn y sector gwasanaethau cyhoeddus. • Cynnig lled a dyfnder astudiaeth, gan ymgorffori craidd allweddol gwybodaeth. • Cynnig cyfleoedd i gaffael sgiliau ymarferol a thechnegol perthnasol i waith.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r unedau canlynol: • Deall Sector Y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai • Ymchwilio i Gyfleoedd Gyrfaol yn y Gwasanaethau mewn Lifrai • Paratoi ar gyfer Cyfweliad Recriwtio • Ymrwymiad Personol a Gofynion Ffitrwydd ar gyfer Rolau yn y Gwasanaethau mewn Lifrai • Effaith Sefydliadau Allanol ar Wasanaethau mewn Lifrai • Ymateb y Gwasanaethau mewn Lifrai mewn Argyfyngau • Datblygu Sgiliau a Phriodweddau sydd eu Hangen ar gyfer Gwasanaethau mewn Lifrai (e.e., Arweinyddiaeth, Hyfforddi, Rheoli Gwrthdaro, Diogelwch Personol, Gwaith Tîm, Cyfathrebu, Llywio, Drilio)


Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 2 cyfwerth

Asesiad

Er mwyn cyflawni Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, rhaid i chi gwblhau asesiad mewnol ymhob uned. Ymhlith y dulliau asesu mae’r canlynol: • Sgiliau Ymarferol • Cwestiynau Llafar • Gwaith Aseiniad • Cwestiynau Ysgrifenedig • Arholiadau Caiff pob uned eu hasesu a’u graddio, yn arwain yn y pen draw at radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill set o sgiliau a fydd yn eich helpu gyda phroses recriwtio’r gwasanaethau diogelu neu fynediad i addysg uwch.

Nodiadau Pellach

• Cit ac Ymweliadau Addysgol: Mae’n ofynnol prynu cit a/neu gymryd rhan mewn ymweliadau addysgol. Trafodwch hyn gyda thiwtor yn ystod eich cyfweliad er mwyn datblygu pecyn wedi’i deilwra yn seiliedig ar y cwrs o’ch dewis.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:01F305YA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd