Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi astudio agweddau damcaniaethol ac ymarferol o wyddoniaeth labordy. Mae’r cwrs yn darparu sail eang ar gyfer y rhai sy’n dymuno astudio gwyddoniaeth a pharatoi ar gyfer gyrfa ym maes gwyddoniaeth neu symud ymlaen i addysg uwch i wneud cwrs gradd.


Mae hefyd yn berthnasol ar gyfer technegwyr cynorthwyol a thechnegwyr sydd eisoes yn gweithredu ac sydd am wella’u sgiliau, eu profiad a’u gwybodaeth. Ochr yn ochr â’r cwrs hwn, byddwch hefyd yn astudio Uwch Fagloriaeth Cymru sy’n gyfwerth ag 1 Lefel A.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn astudio un deg naw o unedau/modiwlau ar draws y ddwy flynedd os byddwch yn symud ymlaen i gwrs Diploma Estynedig Lefel 3: Bydd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys: Hanfodion gwyddoniaeth, Technegau ymarferol gwyddonol; Gwyddoniaeth amgylcheddol; Gwyddoniaeth planhigion a phridd; Cymwysiadau diwydiannol adweithiau cemegol; Ffisioleg systemau’r corff dynol; Newidiadau egni; a Mathemateg ar gyfer gwyddoniaeth


Ar gyfer Uwch Fagloriaeth Cymru byddwch yn ystyried ystod eang o feysydd gan gynnwys sut mae Cymru’n ‘ffitio i mewn’ gydag Ewrop a gweddill y byd, iechyd y genedl a sut i fod yn fentrus. Byddwch hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu, TGCh a Chymhwyso rhif.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 5 TGAU graddau A* - C gan gynnwys Saesneg, Mathemateg ac o leiaf un pwnc Gwyddonol, neu Ddiploma Lefel 2 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol ar lefel rhagoriaeth neu brofiad diweddar perthnasol.


Cewch eich gwahodd i gyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi. Gellir ystyried ymgeiswyr sydd â’r profiad addas ond sydd ddim, o angenrhaid, yn cwrdd â’r gofynion academaidd.

Asesiad

Cewch eich asesu ymhob uned drwy gwblhau gwaith aseiniad a osodir, adroddiadau ar waith labordy a chwblhau aseiniad galwedigaethol. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau’ch cwrs a’ch portffolio Sgiliau Hanfodol i’r safon angenrheidiol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr llwyddiannus yn gallu symud ymlaen i gwrs Diploma Estynedig lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. os ydych yn symud i gyflogaeth, mae cyfleoedd gyrfaol gwych fel tehcnegydd/hyfforddaui ym mhob maes gwyddonol.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:02F308NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gwyddonwyr cemegol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gwyddonwyr Biolegol a Biocemegwyr:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gwyddonwyr ffisegol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr sifil:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr mecanyddol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr trydan:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr electroneg:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr Dylunio a Datblygu:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Peirianwyr cynhyrchu a phroses:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol ym maes peirianneg n.e.c.:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol ym maes cadwraeth:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol amgylcheddol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Rheolwyr Ymchwil a Datblygu:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr labordy:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Technegwyr gwyddoniaeth, peirianneg a chynhyrchu n.e.c.:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau