Fel rhan o’ch cwrs, byddwch yn astudio ystod o bynciau megis anatomi a ffiisioleg, hyfforddiant a ffitrwydd, asesu risg, profi ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer, hyfforddi chwaraeon, datblygiad mewn chwaraeon a chwaraeon ymarferol tîm. Ymhlith y meysydd arbenigol bydd: maeth chwaraeon, rheolau/rheoliadau a dyfarnu, ymarfer, iechyd a ffordd o fyw, seicoleg perfformiad mewn chwaraeon a hyfforddi gweithgareddau corfforol ac ymarfer.
Bydd angen 5 TGAU graddau A*- C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gwblhau rhaglen alwedigaethol lawn ar Lefel 2 gyda gradd ar gyfartaledd teilyngdod, Dylai'r rhaglen Lefel 2 hefyd gynnwys TGAU graddau A*- C Mathemateg a Saesneg/Cymraeg neu gyfwerth fel Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd hefyd angen geirda boddhaol.
Cewch eich gwahodd i gyfweliad. Yn ystod y cyfweliad hwn asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Er mwyn cyflawni Lefel 3 mewn Chwaraeon, rhaid i chi gwblhau aseiniadau mewnol ymhob uned. Caiff eich sgiliau ymarferol eu hasesu, a defnyddir dulliau asesu megis holi ar lafar, gwaith aseiniad a chwestiynau ysgrifenedig. Asesir pob uned a’u graddio a dyfernir gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud cais am gyrsiau Addysg Uwch. Gallech hefyd wneud cais am swydd o fewn y sector.
Purchase of Kit and/or Education Trips is required for this course. Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied. A tailored individual package will be developed for you depending on which course you have chosen