Lefel 3 mewn Chwaraeon (Rygbi'r Gynghrair)

Cyflwynir y cwrs hwn mewn partneriaeth â FAW. Caiff yr holl chwaraewyr gyfle i gael hyfforddiant rygbi'r gynghrair tra'n astudio Diploma BTEC Lefel 3 Chwaraeon. Bydd y cwrs yn rhoi'r cyfle gorau i lwyddo ar lefel elît gan y bydd yn cynyddu cryn dipyn ar yr amser y caiff y chwaraewyr eu hyfforddi a'u cyflyru'n gorfforol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Fel rhan o’ch cwrs, byddwch yn astudio ystod o bynciau megis anatomi a ffiisioleg, hyfforddiant a ffitrwydd, asesu risg, profi ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer, hyfforddi chwaraeon, datblygiad mewn chwaraeon a chwaraeon ymarferol tîm. Ymhlith y meysydd arbenigol bydd: maeth chwaraeon, rheolau/rheoliadau a dyfarnu, ymarfer, iechyd a ffordd o fyw, seicoleg perfformiad mewn chwaraeon a hyfforddi gweithgareddau corfforol ac ymarfer.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

I gael lle ar y cwrs hwn mae angen 5 TGAU A*- C, a rhaid i'r rhain gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gyfwerth, megis Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon gyda gradd teilyngdod.

Asesiad

Er mwyn cyflawni Lefel 3 mewn Chwaraeon, rhaid i chi gwblhau aseiniadau mewnol ymhob uned. Caiff eich sgiliau ymarferol eu hasesu, a defnyddir dulliau asesu megis holi ar lafar, gwaith aseiniad a chwestiynau ysgrifenedig. Asesir pob uned a’u graddio a dyfernir gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallech fod yn gymwys i fynd ymlaen i gwrs Lefel 2 megis y Diploma mewn Cymorth Systemau neu Ddiploma Cyntaf L2 BTEC mewn Technoleg a Gwybodaeth a Chreadigol.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Ystrad Mynach
Cod y Cwrs:08F302YB
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau