Mae'r cwrs hwn ar gael mewn lleoliadau eraill:

Peirianneg Lefel 3: Peirianneg Drydanol/Electronig

Datblygwyd y cwrs hwn i gynnig gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol cysylltiedig i ddysgwyr mewn peirianneg drydanol ac electronig, ynghyd â phrofiad ymarferol a disgwyliadau o'r sefyllfaoedd y gallen nhw eu hwynebu mewn swydd beirianneg.


Y prif gymhwyster ar y cwrs hwn yw’r Cymhwyster Galwedigaethol Cysylltiedig (VRQ). Fe'i cynlluniwyd yn benodol ar gyfer dysgwyr mewn addysg llawn amser sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector peirianneg. Hefyd, gall y cymhwyster fod yn addas ar gyfer dysgwyr eraill, gan gynnwys oedolion, sydd â diddordeb mewn technoleg peirianneg ac/neu sy'n ystyried newid gyrfa. Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio uned NVQ mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg hefyd. Disgwylir i bob dysgwr llawn amser fynychu sesiynau sgiliau yn ogystal â'r cwrs galwedigaethol o'u dewis. Hefyd, gofynnir i chi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o amserlen eich cwrs llawn amser.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch yn dysgu'r canlynol:


• Peirianneg ac iechyd a diogelwch amgylcheddol • Effeithlonrwydd a gwelliant sefydliadol peirianneg • Egwyddorion trydan ac electroneg * • Electroneg ddigidol * • Cydosod a Phrofi Cylchedau Electronig * (* Gall rhai unedau dewisol newid)

Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 2 cyfwerth


Bydd ymgeiswyr ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer ein cwrs llawn amser Cyn-Prentisiaeth Peirianneg Drydanol Uwch (30 awr yr wythnos). Rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf gradd B neu'n uwch mewn Mathemateg, gradd C neu'n uwch mewn Saesn

Asesiad

Ymhlith dulliau asesu'r cymhwyster hwn mae arholiad amlddewis ar y sgrin ar gyfer un uned orfodol ac un uned ddewisol ac asesiadau ymarferol a theori a gaiff eu marcio gan y Ganolfan ar gyfer unedau eraill y llwybr. Cynlluniwyd dulliau asesu i asesu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dysgwyr ar gyfer pob uned. Mae'r arholiadau amlddewis ar y sgrin yn cael eu gosod a'u marcio gan y sefydliad dyfarnu. Mae'r asesiad mewnol yn cael ei osod gan y sefydliad dyfarnu a'i farcio gan aelodau o'r tîm addsygu yn y Ganolfan.

Dilyniant Gyrfa

A chithau wedi datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol a dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau trydanol ac electronig, mae cyfleoedd am waith yn bodoli ym maes Offeryniaeth a Rheoli Electronig megis dosbarthu petrocemegol, nwy a dwr ynghyd â Chydosod Electronig ac Awtomatiaeth. Ar ôl cyflawni tystysgrifau NVQ a City & Guilds, cewch eich annog i chwilio am brentisiaethau o fewn y diwydiant perthnasol.

Holwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:04F304NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud
Select Location
Choose Location

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd