Tystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion Lefel 6 (TAR)

Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddarparu rhaglen gydlynol o hyfforddiant proffesiynol i’r rhai sy’n gweithio mewn / sy’n dymuno gweithio mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan gynnwys tiwtoriaid AB/AU rhan amser heb eu hyfforddi, tiwtoriaid oedolion a chymuned, tiwtoriaid gwaith ieuenctid, swyddogion tân a’r heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol, hyfforddwyr diwydiannol/masnachol, hyfforddwyr preifat, personél y lluoedd arfog a gweithwyr cymorth addysgol sy'n gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth ddiwydiannol am ran sylweddol o'u diwrnod gwaith.


Bydd graddedigion yn cael eu cofrestru ar y Dystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (TAR) a phobl nad ydynt yn raddedigion ar y Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET).

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Pwyslais y cwrs yw 'dysgu trwy wneud' a byddwch yn cael digon o gyfle i ddatblygu sgiliau a thechnegau athro da. Mae cydrannau academaidd y cwrs yn seiliedig ar fodiwlau ac yn cynnwys elfennau megis dulliau dysgu ac addysgu cwricwlwm, cynllunio ac asesu dysgu ynghyd â modiwlau opsiynol.


Disgwylir i ddysgwyr wneud eu trefniadau eu hunain er mwyn cael 100 awr o brofiad ymarferol dan oruchwyliaeth (ymarfer addysgu). Bydd hyn yn cael ei wneud yn ystod y ddwy flynedd.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd gofyn i chi feddu ar gymhwyster cydnabyddedig yn eich pwnc dewisol a gallu dangos profiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol perthnasol lle bo'n briodol.


Yr isafswm o ran cymwysterau yw Gradd (Lefel 6).

Asesiad

Cewch eich asesu trwy gymysgedd o astudiaethau achos ysgrifenedig, cyflwyniadau, adroddiadau a gofynion portffolio eraill.

Dilyniant Gyrfa

Mae gan ein graddedigion hanes o symud i swyddi addysgu llawn amser a pharhaol. Bydd y cwrs hwn yn helpu graddedigion i fagu hyder a datblygu sgiliau wrth weithio gydag amrywiaeth o bobl a defnyddio'r dechnoleg a'r cyfryngau diweddaraf. Hefyd, bydd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach. Ar ôl cwblhau'r cwrs, gallech gael gyrfa fel ymarferydd PCET yn y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, ee Addysg Bellach (AB), Darparwyr Hyfforddiant, Dysgu Oedolion a Chymunedol a Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae graddedigion diweddar wedi cael cyflogaeth llawn amser a rhan amser ar draws y sector ac mae llawer o’n cyn-raddedigion yn cefnogi’r cwrs yn frwd fel mentoriaid ar gyfer ein hathrawon dan hyfforddiant newydd.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 6
Modd:Rhan Amser Evening
Dyddiad:02/09/2024
Dyddiau:Monday
Amser:15:00 - 21:00
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:13E601NA
Ffioedd
HE Tuition Fee Year 1: £2700

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol ym maes addysg uwch:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol ym maes addysg bellach:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol ym maes addysg uwchradd:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr Proffesiynol Addysgu Addysg Gynradd a Meithrin:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Gweithwyr proffesiynol ym maes addysg anghenion arbennig :
Beth allech chi ei ennill:
Fel Uwch Broffesiynolion Sefydliadau Addysgol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Ymgynghorwyr addysg ac arolygyddion ysgol:
Beth allech chi ei ennill:
Fel Addysgu a Gweithwyr Proffesiynol Addysgol Eraill n.e.c.:
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau