Yn y cwrs UG, byddwn yn dysgu sut mae gwahanol fathau o gyfryngau yn cael eu llunio a phwysigrwydd cydgyfeiriant y dechnoleg ddigidol a’r cyfryngau. Byddwch yn dysgu drwy ddadelfennu testunau cyfryngol megis cloriau cylchgronau, rhaghysbysiadau ffilm, hysbysebion, rhaglenni teledu a gwefannau. Byddwch hefyd yn dysgu sut maen nhw'n cael eu dehonli gan wahanol gynulleidfaoedd.
Ar gyfer rhan ymarferol o’r cwrs, byddwch yn creu’ch cynnyrch cyfryngol chi eich hun gan gynnwys cloriau cylchgronau ac erthygl i gylchgrawn. Yn ystod cwrs A2, byddwch yn astudio tri math gwahanol o ddiwydiant y cyfryngau mewn dyfnder: ffilm, gemau cyfrifiadurol a theledu. Mae’r gwaith cwrs yn cynnwys traethawd ymchwil estynedig a chynhyrchiad a allai gynnwys cloriau DVD neu CD a deunydd marchnata.
Bydd angen 5 TGAU Graddau A*- C gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg. Does dim rhaid eich bod wedi astudio’r Cyfryngau yn TGAU.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy arholiad 50% a gwaith cwrs 50%
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i fynd i brifysgol a chael cynnig lle yno neu symud ymlaen i un o’r prentisiaethau creadigol.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.