Mae'r cwrs yn dilyn y cwricwlwm ILS; gyda’r pedair colofn ddysgu yn graidd i’r rhaglen:
• Iechyd a Lles • Cynhwysiant Cymunedol • Byw'n Annibynnol • Cyflogadwyedd Mae'r cwricwlwm yn darparu dull ymarferol a hyblyg o feithrin a chydgrynhoi sgiliau ym mhob un o'r meysydd hyn er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer bywyd fel oedolyn. Mae sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol yn rhan allweddol o ddysgu, ac mae cyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau hyn wedi'u hymgorffori ym mhob un o'r pedair colofn.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau
Nid oes asesiadau ffurfiol ar y rhaglen hon. Bydd cynnydd myfyrwyr tuag at dargedau unigol yn cael ei asesu a'i adolygu'n barhaus. Cynhelir adolygiadau gyda myfyrwyr a'u rhieni/gofalwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae dilyniant yn cael ei olrhain drwy osod targedau ac asesu.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd cyfle i chi symud ymlaen i gyrsiau ar lefel uwch mewn maes galwedigaethol.







