Rhennir y cwrs UG yn ddwy ran: mae'r cyfnod sylfaen yn caniatáu amser ichi gynhyrchu gwaith, syniadau ac ymchwil ymarferol o ffynonellau cynradd a chyd-destunol. Byddwch yn arbrofi gyda thechnegau digidol a ffilm ac yn datblygu a mireinio'ch syniadau, gan gyflwyno gwaith ar gyfer nifer fechan o brosiectau byr.
Bydd yr Ymchwiliad Creadigol Personol yn eich galluogi i weithio'n fwy annibynnol wrth ddatblygu syniadau, bwriadau ac ymatebion. Bydd yn arwain at bortffolio prosiect sylweddol a chyflwyniad terfynol. Rhennir y cwrs U2, yn yr ail flwyddyn astudio, yn ddwy uned: Mae Ymchwilio Personol yn ymgorffori dwy elfen gysylltiedig, gyda chanlyniadau terfynol ar wahân: gwaith ymarferol ac astudiaeth bersonol. Dangosir yr ymchwilio a'r datblygu ar gyfer y gwaith ymarferol a’r astudio personol trwy astudiaethau ategol yn eich portffolio a’ch gosodiad ffotograffig. Mae aseiniad a osodir yn allanol yn cynrychioli diwedd y cwrs U2. Mae'r papur yn cynnwys un man cychwyn thematig eang gyda'r pwyslais ar ymchwil ac annibyniaeth wrth ddatblygu syniadau a chanlyniadau, ar ffurf portffolio sylweddol a gosodiad ffotograffig
Bydd angen 5 TGAU gradd A * - C yn cynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith ac mae'n hanfodol eich bod yn berchen ar SLR Digidol gyda lens cyfnewidiadwy. Gallwch drafod pa gamera y bydd angen ichi ei brynu gyda'ch tiwtor yn ystod y cyfweliad. Bydd gofyn i chi brynu SLR Digidol ar gyfer dechrau'r cwrs.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs 60% ac aseiniadau a osodir yn allanol 40%
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i brifysgol a chael cynnig lle yno neu gallech chwilio am gyflogaeth neu hunangyflogaeth.
Compatible subjects include:
Media Studies
Film Studies
Art
English
Drama
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.