Yn ystod cwrs UG, cwrs y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio:
Grymoedd, symudiad a mecaneg • Electronau a ffotonau a gronynnau • Deunyddiau • Ymbelydredd Electromagnetig a ffenomenau Cwantwm • Sgiliau Arbrofi Mae’r cwrs ail flwyddyn (A2) yn adeiladu ar y deunydd a astudiwyd ar lefel UG ac yn cynnwys: Meysydd disgyrchiant, trydanol a magnetig • Mecaneg pellach a symudiad harmonig syml • Grymoedd ac egni • Thermodynameg • Ynni Niwclear • Seryddiaeth a Chosmoleg
Bydd angen 5 TGAU gradd A * - C yn cynnwys y Saesneg/Cymraeg Iaith gradd B, Mathemateg gradd B ynghyd â Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl BB neu’n uwch, neu TGAU Ffiseg (Haen Uwch) gradd B.
Cewch eich gwahodd I fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i brifysgol a chael cynnig lle i astudio cyrsiau megis Ffiseg a Pheirianneg. Mae’n dderbyniol neu’n ddymunol ar gyfer nifer o gyrsiau gradd eraill megis Optometreg, Meddygaeth, Deintyddiaeth, Fferylliaeth, Gwyddor Cyfrifiadurol a Mathemateg. Mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyflogaeth neu’n symud i raglen brentisiaeth.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.