Ar y cwrs UG byddwch yn astudio dwy uned – Seicoleg: O'r Gorffennol i'r Presennol a Seicoleg: Ymchwilio i ymddygiad. Bydd ymchwil clasurol yn eich helpu i gaffael gwerthfawrogiad fod seicoleg yn parhau i ddatblygu ac esblygu. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r pum dull (biolegol, seicodeinamig, ymddygiadol, gwybyddol a phositif). Byddwch hefyd yn ymwneud ag archwilio ymddygiad drwy ddadansoddi ymchwil seicolegol. Bydd hyn yn ei dro yn helpu dysgwyr i gaffael gwerthfawrogiad o effaith y dewis a wnaed ar ganlyniadau gwaith.
Ar y cwrs A2 byddwch yn astudio dwy uned – Seicoleg: Goblygiadau yn y Byd Real a Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol. Ar ôl dysgu yn UG am y gwahanol ddulliau seicolegol o fynd ati, disgwylir i'r dysgwyr gymhwyso'r wybodaeth a'r ddealltwriaeath i ymddygiad dynol/anifeiliaid drwy astudio pynciau amrywiol fel sgitsoffrenia ac ymddygiad troseddol a chynnal eu hymchwil ac archwiliadau eu hunain.
Bydd angen 5 TGAU gradd A * - C yn cynnwys Gradd B yn y Saesneg/Cymraeg Iaith neu Lenyddiaeth a Gwyddoniaeth. Does dim rhaid eich bod wedi astudio Seicoleg yn TGAU.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu drwy arholiad 100%
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i brifysgol a chael cynnig lle i astudio Seicoleg neu symud i gyflogaeth.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.