Ysgol Roc: Diploma Atodol Lefel 2 ar gyfer Ymarferwyr Cerddoriaeth

Mae’r cwrs Diploma Ategol Lefel 2 hwn a ysgrifenwyd gan ‘Access to Music’ a’i ddilysu gan ‘Rock School’ (http://www.accesstomusic.co.uk/courses/further-education-music-courses ), yn cynnwys nifer o unedau craidd gorfodol ac unedau arbenigol, tra’n caniatáu hyblygrwydd i ddysgwyr ddilyn eu dewis eu hunain o bedwar llwybr annibynnol – Perfformiad, Technoleg, Busnes a Chyfansoddi. Byddwch yn dilyn yn ôl troed cyn-fyfyrwyr fel: Ed Sheeran, Jess Glynne a Rita Ora, sydd i gyd wedi dilyn y llwybr y galwedigaethol hwn gyda darparwyr eraill yn y DU.


Byddwch yn gallu ennill y sgiliau cerddorol a’r hyder angenrheidiol o fewn amgylchedd cefnogol, a chreadigol a’ch cyfarwyddo gan staff ymroddedig cymwys iawn sydd â thros 20 mlynedd o brofiad proffesiynol yn y diwydiant ac sydd wedi’u cymeradwyo i gyflenwi’r cwrs. Cynhelir y cwrs ar Gampws Nantgarw lle caiff dysgwyr ddefnyddio Stiwdio Recordio heb ei hail ac yn llawn offer a hefyd 'Mac Lab', lle cewch ddefnyddio’r cyfleusterau a’r adnoddau mwyaf diweddar. Mae’r cwrs cyfwerth â phedwar TGAU.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o elfennau cerddoriaeth gyda phwyslais arbennig ar: Sgiliau Perfformio Cerddoriaeth Fyw a Rihyrsio; Dilyniannu Cerddoriaeth a Chynhyrchu Cerddoriaeth; Recordia Sain Byw, Trefnu Digwyddiadau Cerddorol, Recordio a Chynhyrchu Digidol, Ail-gymysgu ac Atgyfnerthu Sain Byw.


Mae’r coleg wedi ennill enw eithriadol o dda iddo’i hun o ran sicrhau bod myfyrwyr yn rhan o weithgareddau hyrwyddo a marchnata sy’n alwedigaethol berthnasol gan gynnwys ein Gwyl Gerddorol ni ein hunain, “Valleys SoundFest” (http://www.valleyssoundfest.co.uk ), a’n Sianel Technoleg Cerddoriaeth ar YouTube (https://www.youtube.com/channel/UCIkoE9Qkvz3dVR_Udz0mD5w). Mae’r ddau ddigwyddiad yn amlygu gwaith ardderchog ein dysgwyr ac yn dangos y cyfoeth o brofiad allgyrsiol sydd yn cael ei gynnig i baratoi dysgwyr ar gyfer cael gwaith yn y diwydiant. Byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant yn agweddau mwy traddodiadol o arferion cerddoriaeth, gan gynnwys: sgiliau technegau perfformio cerddoriaeth a rihyrsio, i wella’ch gallu cerddorol cyffredinol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd angen 4 TGAU gradd A*- D o ddewis yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg neu gymhwyster Lefel 1 sgiliau sector.


Cewch eich gwahodd i fynychu clyweliad/cyfweliad. Bydd angen asesiad cychwynnol arnoch ar eich llythrennedd a’ch rhifedd i sefydlu os oes arnoch angen unrhyw gymorth arnoch chi.

Asesiad

Cewch eich asesu’n barhaus drwy gydol y cwrs drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig. Asesir pob uned yn fewnol a’u safoni’n allanol. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, dyfernir gradd gyffredinol – Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus gallech symud ymlaen i gwrs Diploma Ategol Lefel 3 yr Ysgol Roc (Rock School) ar gyfer Ymarferwyr Cerddoriaeth.

Nodiadau Pellach

Purchase of Materials and/or Kit is required for this course (Studio Fees - £40). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 2
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:02/09/2024
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9AF202NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Studio Fee: £40

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Gyrfaoedd y Dyfodol
Beth allech chi ei ennill:
Fel Cerddorion:
Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau