Mae’r dudalen Covid-19 bwrpasol hon yn cynnwys ein gwybodaeth ddiweddaraf am COVID-19.
Rydym yn eich annog i wirio’r dudalen hon yn rheolaidd, ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol, ac, os ydych yn ddysgwr cyfredol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am ddiweddariadau ar Teams (Tîm y Campws)
Cofiwch:
Gwisgwch orchudd pan fyddwch dan do
Manteisiwch ar y cynnig o frechlyn neu bigiad atgyfnerthu
Archebwch brawf PCR os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau
Defnyddiwch ein ffurflen COVID ar y tab Hafan ym Mhorth y Dysgwyr i roi gwybod inni am ganlyniad prawf positif neu os ydych yn ynysu
Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sicrhau bod dyfeisiau llif ochrol (LFDs) ar gael i ddysgwyr a staff colegau.
Gellir casglu’r pecynnau profi hyn o brif dderbynfa pob campws.
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ddysgwyr a staff brofi ddwywaith yr wythnos (dau i dri diwrnod ar wahân) i sicrhau ein bod yn lleihau’r risg o drosglwyddo lle bynnag y bo modd.
.
Mae angen gorchuddion wyneb ym mhob gofod dan do gan gynnwys ystafelloedd dosbarth (Os ydych wedi’ch eithrio, gwisgwch eich cortyn gwddf i osgoi cael eich herio’n aml)
.
TI weld y gofynion a’r rheolau diweddaraf ar gyfer hunanynysu (fel pwy sydd angen gwneud, pryd, hyd y cyfnod), rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar Hunanynysu
Pan nodir bod achos o COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau yn rhywun sy’n mynychu’r coleg (staff neu ddysgwr) cysylltir â’r achos (neu’r rhiant) i asesu a fynychodd y coleg yn ystod eu cyfnod heintus ac a oes angen olrhain cysylltiadau yn y coleg ymhellach.
Os yw unrhyw aelod o staff neu ddysgwr yn y coleg yn gyswllt â’r achos, bydd gofyn iddynt hunanynysu am 10 diwrnod a bydd eich tîm Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) neu’ch Adran Addysg leol yn cysylltu â chi.
Os nad yw aelod o staff neu ddysgwr o’r coleg yn gyswllt â’r achos, ni fydd yn ofynnol iddynt hunanynysu.
.
Rhowch wybod am ganlyniad prawf positif neu rhowch wybod inni eich bod yn ynysu cyn gynted â phosibl
Mae rhoi gwybod inni yn hawdd; defnyddiwch ein ffurflen COVID ar y tab Hafan ym Mhorth y Dysgwyr
.
Yn syml, ewch draw i’n tudalen Cysylltiadau ac Adnoddau (gwasanaethau, llwyfannau ac adnoddau’r coleg)