Creadigaethau dysgwyr y Coleg ar gyfer rhodfa fodelau yn codi arian ar gyfer elusen ymwybyddiaeth HIV

Bydd grŵp o ddysgwyr creadigol o goleg yn Ne Cymru yn gweld eu creadigaethau ar y rhodfa mewn sioe ffasiwn ddrag i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Aids.

Mae naw o ddysgwyr llunio gwisgoedd o Goleg y Cymoedd wedi dylunio a chreu gwisgoedd ac ategolion afrad ar gyfer breninesau drag proffesiynol mewn digwyddiad byw ar Ddiwrnod Rhyngwladol Aids ar 1 Rhagfyr ym Mary’s Bar yng Nghaerdydd.

Gofynnwyd i’r dysgwyr ail flwyddyn, sydd i gyd yn astudio gradd sylfaen lefel 5 mewn Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Sgrin a’r Llwyfan, ddod â’r breninesau drag yn fyw ar gyfer y digwyddiad codi arian, a drefnir er budd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins – yr elusen sy’n ymgyrchu i waredu HIV a grymuso a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda’r afiechyd yn ogystal â dileu stigma a gwahaniaethu sy’n gysylltiedig â’r afiechyd.

Wedi’i ysbrydoli gan y gystadleuaeth realiti poblogaidd, RuPaul’s Drag Race, bydd MaryTacular’s Fashion Show yn cynnwys gwisgoedd yn cael eu modelu a’u beirniadu gan banel arbenigol, gan gynnwys y Breninesau Drag adnabyddus o Gaerdydd Fanny Fierce a Polly Amorous, a’r artist Nathan Wyburn, a saethodd i enwogrwydd ar Britain’s Got Talent ar ôl creu portread o’r beirniad Michael McIntyre gan ddefnyddio Marmite ar dost.

Gan greu popeth o fodisiau disglair a leotardau llawn secwins i benwisgoedd llachar a sodlau diemwnt, mae’r gwneuthurwyr gwisgoedd o gampws Nantgarw wedi creu cyfanswm o 18 gwisg ar gyfer y digwyddiad codi arian, gyda phob dysgwr yn creu dau ddyluniad yr un. Bydd y myfyriwr buddugol yn cael ei enwi ar y noson.

Dywedodd Iona Duff, 26, un o ddysgwyr y Coleg sy’n cymryd rhan yn y sioe: “Mae gweithio ar y sioe hon wedi bod yn rhyfeddol ac bydd yn gyffrous gweld ein creadigaethau’n dod yn fyw yn y digwyddiad byw.

“Mae wedi bod yn brofiad gwych sydd wedi bod yn hwyl ac yn werthfawr i’n datblygiad proffesiynol ar yr un pryd. Gan fy mod wedi arfer â gweithio o ddyluniadau gwisgoedd penodol, roedd gorfod creu fy nyluniadau fy hun o’r dechrau, yn frawychus ac yn heriol ar y dechrau, ond fe’m galluogodd i gael mwy o ryddid i fod yn greadigol nag y byddwn wrth weithio o ddyluniad. Roedd hynny’n hynod o braf.

“Mae’n wych hefyd ein bod yn gallu defnyddio ein sgiliau a’n angerdd i gynnal i sioe wych, ynghyd â helpu codi arian i elusen.”

Daeth y syniad y tu ôl i’r prosiect ar ôl i diwtoriaid y cwrs, Emma Embling a Caroline Thomas gydweithio â’r cyn-fyfyrwyr Hazel May-Elstone, a elwir yn ‘Pom Pom’, a Gordon Tovey, perchennog Mary’s, sy’n angerddol am ymwybyddiaeth Aids ar ôl colli ffrindiau i’r afiechyd.

Wedi’i leoli yng nghampws Nantgarw’r Coleg, mae’r cwrs arbenigol Llunio Gwisgoedd dwy flynedd yng Ngholeg y Cymoedd, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, yn cyflwyno’r dysgwyr i’r sgiliau torri a llunio gwisgoedd sydd eu hangen o fewn y meysydd ffilm a theatr.

Trwy gydol y radd sylfaen, mae dysgwyr yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau byw i gael ymarfer diwydiant bywyd go iawn o ddylunio a chreu gwisgoedd i hybu eu cyflogadwyedd.

Dywedodd arweinydd y cwrs, Emma Embling: “Bydd ein dysgwyr yn arddangos rhai eitemau gwych ar y rhodfa yn Mary’s Bar a fydd yn tynnu sylw aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol at eu doniau eithriadol.

“Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgwyr, nid yn unig ennill profiad ymarferol gwerthfawr, a fydd yn eu helpu gyda’u gyrfaoedd yn y dyfodol, ond hefyd i chwarae rhan weithgar wrth wneud gwahaniaeth a chodi ymwybyddiaeth o fater pwysig iawn.

“Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at noson braf iawn, ac rydym yn annog pawb i ymuno â ni i ddathlu, cael hwyl a chodi arian dros achos gwych.”

Cynhelir y digwyddiad, sydd ar agor i’r cyhoedd, ddydd Gwener, 1 Rhagfyr o 7pm ym Mary’s Bar ar Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd.

Am ragor o wybodaeth am y Radd Sylfaen mewn Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Sgrin a’r Llwyfan yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i: /costumeconstruction?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau