Cwrdd â Thîm y Feithrinfa

Gail Harris, Rheolwr y Feithrinfa

Ces i fy mhenodi’n Rheolwr y Feithrinfa yn 1994 pan agorodd y coleg y cyfleuster Meithrinfa Ddydd ar Gampws Ystrad Mynach. Prif bwrpas y feithrinfa oedd cefnogi myfyrwyr gyda gofal plant gan eu galluogi i astudio, a galla i ddweud â llaw ar fy nghalon fy mod wedi gweithio gyda theuluoedd anhygoel sydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus. Cael bod yn rhan o’u taith yw un o’r pethau mwyaf gwerth chweil am fy swydd.

Does dim dau ddiwrnod yr un fath yma – fyddwch chi byth yn gwybod beth sydd i ddod, ond rydyn ni’n cael hwyl bob dydd ac mae gweld y plant yn hapus i ddod i’r feithrinfa (ar ôl y cyfnod setlo ym mis Medi) yn wych i’w weld.

Rydw i’n ddigon ffodus i weithio gyda thîm gwych o staff ac rydyn ni wedi profi’r holl uchelfannau a rhai iselfannau hefyd, ond rydyn ni’n cyd-dynnu mor dda fel tîm, ac mae hynny i’w weld yn awyrgylch hamddenol iawn y feithrinfa.

Ar lefel bersonol rydw i’n mwynhau fy mywyd cymdeithasol prysur, gwyliau teuluol ac mae cael cyfle i ddal lan gyda fy chwiorydd a fy ffrindiau yn bwysig i fi. Rydw i wrth fy modd â Rygbi Cymru ac yn mwynhau gwylio’r gemau gyda llymaid neu ddau.



Emma Johns, Dirprwy Reolwr

Rydw i wedi gweithio yn y feithrinfa ers iddi agor yn 1995.

Rydw i wedi mwynhau gwneud gweithgareddau creadigol gyda’r plant erioed ac rydw i wrth fy modd yn eu gweld yn mynd â’u creadigaethau gartref gyda balchder. Rydw i’n hapus i weithio gyda phob grŵp oedran o blant – ond dydw i ddim yn awyddus i wneud swydd y cogydd – gan nad yw coginio a fi yn gymysgedd da.

Rydw i’n mwynhau gwneud ymarfer corff yn y gampfa, mynd am dro hir, siopa, mynd i’r theatr, a chymdeithasu gydag aelodau tîm y feithrinfa ar nosweithiau allan.



Jane John, Arweinydd Tîm

Helo, Jane ydw i ac rydw i wedi bod yn gweithio yn y feithrinfa ers iddi agor yn 1995, gan weithio ym mhob un o’r tair ardal, ac wedi mwynhau pob un ohonyn nhw.

Rydw i wrth fy modd yn bod yn rhan o dîm gofalgar a chefnogol ac yn mwynhau cynllunio ystod o weithgareddau ar gyfer y plant i gefnogi eu dysgu a’u mwynhad o’r feithrinfa.

Rydw i’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu, mynd am dro hir a dyddiau allan.



Lisa Badham, Gweithiwr Allweddol

Helo, Anti Lisa ydw i, ac rydw i wedi bod yn gweithio ym meithrinfa’r coleg ers pan oeddwn i’n 19 oed.

Mae gen i NVQ Lefel 2 a 3 mewn Gofal ac Addysg Blynyddoedd Cynnar, ac rydw i wastad wedi bod eisiau gweithio gyda phlant ifanc cyn oed ysgol. Rydw i wrth fy modd yn eu helpu i ddysgu a thyfu a’u paratoi i symud ymlaen i’r “Ysgol Fawr”. Rydw i’n mwynhau canu a dawnsio gyda’r plant a bod yn wirion ac yn “ifanc fy ysbryd”.

Rydw i’n mwynhau gwyliau byr gyda fy nheulu. Mae gan fy mab anghenion dysgu ychwanegol. Mae gofalu amdano wedi rhoi gwell dealltwriaeth i fi o anghenion unigol plant ac rydw i bob amser ar gael i rieni a allai fod yn pryderu am ddatblygiad a gofal eu plentyn.



Karen Brunnock, Gweithiwr Allweddol

Helo, mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y feithrinfa, ac mae’r plant meithrin yn fy ngalw i’n “Anti Karen” ac rydw i wedi cael fy ngalw’n “Mam” ac, yn fwy diweddar, yn “Nan”.

Rydw i’n mwynhau’r holl weithgareddau crefft anniben yn ogystal â garddio gyda’r rhai bach – felly mae’n saff i ddweud nad oes ots gen i “faeddu fy nwylo”, diolch i’r holl weithgareddau yma mae’r plant yn eu mwynhau. Un o’r pethau rydw i’n ei fwynhau fwyaf yw gwisgo “y siwt fawr goch” bob blwyddyn i fod yn Siôn Corn a rhannu anrhegion…mae’r rhan fwyaf o’r plant wrth eu boddau!

Pan nad ydw i yn y feithrinfa, dw i’n mwynhau cwrdd â ffrindiau am baned a gofalu am fy nghrwbanod, Harry a Lloyd.



Sian Catchpole, Gweithiwr Allweddol

Rydw i wedi gweithio yn y feithrinfa ers iddi agor yn 1995, yn llawn amser i ddechrau nes i fi ddechrau fy nheulu ac yna’n rhan-amser.

Yn y feithrinfa, rydw i’n mwynhau’r holl weithgareddau crefft ac arddangosiadau celf mae’r plant yn eu mwynhau’n fawr hefyd, ac rydw i bob amser yn chwilio am syniadau crefft newydd ar-lein i’w gwneud gyda’r plant. Rydw i hefyd wrth fy modd yn rhoi cwtsh i’r plant meithrin ac rydw i bob amser ar gael i gysuro plant os ydyn nhw’n drist neu wedi ypsetio.

Tu allan i’r gwaith, rydw i’n mwynhau treulio amser gartref gyda fy ngŵr a fy nwy ferch, a mynd â’n ci Poppy am dro hir ar y traeth.



Kathryn Coleman, Gweithiwr Allweddol

Helo, Anti Kath / Kathryn ydw i. Rydw i wedi gweithio yn y feithrinfa ers dros 15 mlynedd ac ro’n i’n fyfyriwr yma ar leoliad pan o’n i’n gweithio tuag at fy nghymhwyster gofal plant – Gofal Plant ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar Lefel 3.

Rydw i wrth fy modd gyda phlant cyn oed ysgol lle rydyn ni’n mwynhau creu gwaith celf i’w arddangos yn falch yn y feithrinfa neu i fynd â nhw gartref. Rydw i wrth fy modd yn gwylio ac yn helpu’r plant yn ein gofal i ddysgu a datblygu i fod yn bobl bach yn barod ar gyfer yr “Ysgol Fawr”. Fi yw’r “person technegol” yn y feithrinfa, a fi sy’n gyfrifol am ddarparu’r holl ffotograffau ar gyfer cofnodion o ddatblygiad y plant, am gynllunio gweithgareddau a gwerthuso ac am dudalen Facebook y feithrinfa.

Yn fy amser sbâr, rydw i’n mwynhau celf a chrefft, gwrando ar gerddoriaeth a mynd i gigs byw a threulio amser gyda ffrindiau, teulu a fy anifeiliaid anwes.



Janet Denham, Gweithiwr Allweddol

Fi yw “Anti Jan” ac rydw i wedi bod yn rhan o dîm y feithrinfa ers blynyddoedd. Pan ddechreuais yn y feithrinfa byddai’r plant yn fy ngalw’n ‘Mam’ yn aml, ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, maen nhw nawr yn fy ngalw i’n ‘Nana’.

Fi yw un o aelodau hŷn y tîm ac rydw i’n mwynhau gofalu am fabanod y feithrinfa yn arbennig. Mae ganddon ni lawer o weithgareddau cyffrous, llawn hwyl sy’n golygu bod diwrnod y plant yn brofiad gwerth chweil.



Mandy Matthews, Cogydd y Feithrinfa

Rydw i wedi gweithio ym maes Arlwyo ers dros 28 mlynedd, i ddechrau fel cogydd mewn ysgol, ac yna symud ymlaen i swydd reoli. Fe ymunais â thîm y feithrinfa yn 2019.

Rydw i’n mwynhau coginio prydau cartref maethlon, sydd wedi’u paratoi’n ffres i’r plant. Er mai yn y gegin ydw i, rydw i wrth fy modd yn gweld y plant yn mwynhau eu prydau, yn enwedig gweld eu hwynebau pan fyddan nhw’n rhoi cynnig ar fwydydd newydd.

Rydw i’n mwynhau rhyngweithio gyda’r plant ac wrth fy modd yn eu gweld yn mwynhau’r ardd a theithiau cerdded lleol.

Mae gan y Feithrinfa sgôr hylendid bwyd o 5 – Ardderchog!

Cymwysterau

Mae gan bob aelod o staff y feithrinfa gymhwyster gofal plant cydnabyddedig (lefel 3 ac uwch), yn ogystal â thystysgrifau Cymorth Cyntaf Pediatrig, Hylendid Bwyd a Diogelu.

Mae’r staff yn cymryd rhan yn Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus y coleg, a gaiff ei rhedeg gan y coleg ac asiantaethau allanol. Mae hyn yn ymdrin â phynciau fel hyfforddiant Anghenion Dysgu Ychwanegol, hyfforddiant rheoli ymddygiad, y Gymraeg, ac Atal, i enwi ond rhai.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau