Cwrdd â’r Tîm: Dominic a Vanessa

Cyfle i ni gael sgwrs dau diwtor yn y diwydiannau creadigol i gael hanes eu cefndir a’u cynghorion i ddysgwyr.

Yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni’n ffodus iawn o gael gweithwyr proffesiynol o’r safon uchaf o’r diwydiant ymhlith ein staff, yn enwedig yn ein hadran greadigol.

Yn ddiweddar, ymunodd Dominic Farquar â’r coleg fel darlithydd yn y diwydiannau creadigol yn dilyn pum mlynedd yn gweithio yn y sector ffilm fel ‘grip’ – yr unigolyn sy’n gyfrifol am osod a rigio’r offer camera ar y set.

Yn ystod ei yrfa, mae Dominic wedi gweithio ar amrediad o raglenni teledu a ffilmiau arobryn gan gynnwys ‘Doctor Who’, ‘War of the Worlds’, ‘Sex Education’ cwmni Netflix, ‘Star Wars’, ‘Maleficent’ a’r ffilm ‘Downtown Abbey’.

Daw â’i brofiad mewn gwaith ‘grip’ a gwaith camera gydag ef, a bydd dysgwyr sy’n astudio cyrsiau cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol a digidol yn elwa o hynny.

Mae Dominic yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol dawnus sydd â phrofiad o’r diwydiant, gan gynnwys Vanessa Batten, sydd wedi bod yn y coleg ers dros ddegawd. Vanessa ydy arbenigwraig animeiddio hir-sefydlog Coleg y Cymoedd ar y diplomâu lefel 3 a 4 mewn Celf a Dylunio Sylfaen. Hi hefyd ydy arweinydd cwrs lefel 3 newydd y coleg mewn Celf Gemau, dylunio ac Animeiddio, sydd wedi’i leoli mewn stiwdio ddigidol arbenigol ar gampws y Rhondda.

Ar ddechrau’r flwyddyn, ymunodd Vanessa, sy’n gweithio’n rhan-amser yng Ngholeg y Cymoedd, â stiwdios Aardman Animation, lle mae’n gweithio fel cynhyrchydd ac arweinydd cwrs sylfaen yn Academi Animeiddio Aardman, yn gyfochrog â’i rôl yn y coleg.

Ers ymuno â’r cwmni, mae hi wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau gan gynnwys ffurfio cwrs creu modelau ar-lein gyda gwneuthurwyr modelau o’r cwmni, yn ogystal â chefnogi rhaglenni hyfforddi diwydiant ‘Stop Motion’ Academi Aardman, sydd wedi golygu iddi gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb wythnosol gyda chyfarwyddwyr arobryn fel Nick Park a Will Becher – yr enwau y tu ôl i gynyrchiadau enwog fel ‘Wallace and Gromit’, ‘Creature Comforts’, ‘Chicken Run’ a ‘Shaun the Sheep’.

Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio gyda Netflix, mewn cydweithrediad ag Aardman, i ddatblygu rhaglenni allgymorth sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli cenedlaethau iau i ymuno â’r diwydiant creadigol.

Ochr yn ochr â Choleg y Cymoedd, bu Vanessa’n gweithio fel artist stiwdio byw llawrydd ac artist cynyrchiadau i ‘Life Drawing Live’ y BBC, ac fel darlithydd animeiddio cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

I’r rhai ohonoch sy’n ystyried dilyn gyrfaoedd ym myd teledu, ffilm ac animeiddio, cyngor Vanessa a Dominic ydy dechrau drwy ddod o hyd i gwrs yr ydych yn ei garu ac sy’n eich ysbrydoli ac hefyd i weithio’n galed.

Yn ôl Vanessa: “Gan fod y diwydiant yn newid yn gyson, mae’n bwysig bod yn hyblyg a bod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd. Mae hyn yn dangos y gallwch chi ddatrys problemau a dod o hyd i ffyrdd newydd o herio’ch hun. Byddwch yn uchelgeisiol a chael cymaint o brofiad ag y gallwch, gall hyn gynnwys gwirfoddoli ar gyfer prosiectau, mynychu digwyddiadau a dod i adnabod pobl gyffelyb yn y diwydiant i weld sut mae’r cyfan yn gweithio.”

Prif gyngor Dominic ydy bod yn frwdfrydig bob amser a dilyn eich angerdd.

Meddai: “Mae dod i fyd addysgu yn syth o’r diwydiant o fudd i’m dysgwyr gan fod gen i wybodaeth a sgiliau ffres i ddod â nhw i’m gwersi yn ogystal â chyngor ac awgrymiadau ar sut i lwyddo yn y diwydiant. Mae gen i wybodaeth uniongyrchol am yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano ac mae angerdd amlwg dros y diwydiant a pharodrwydd i wneud y gwaith yn mynd yn bell.”

Ychwanegodd Vanessa: “Yn aml mae yna gamsyniad bod y diwydiant creadigol yn fach ac mai cyfyngedig iawn ydi’r nifer o swyddi sydd ar gael ynddo, ond dydy hynny ddim yn wir. Mae’r diwydiant yn ffynnu ac mae doreth o gyfleoedd ar gael – mae’n bosibl gwneud gyrfa yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei garu!

“Mae cael cysylltiadau yn allweddol yn y diwydiant felly ewch i gwrdd â phobl a bod yn gyfeillgar gyda phawb rydych chi’n cwrdd â nhw. Teithiwch yr ail filltir bob amser i archwilio eich creadigrwydd a’ch uchelgais ond peidiwch â bod ofn ymestyn allan a gofyn am help ac arweiniad!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau