Coronafeirws
Gwyliau Nadolig 2020
Mae'r coleg ar gau o ddydd Gwener 18 Rhagfyr i ddydd Llun 4 Ionawr
Os ydych chi'n ddysgwr ac os oes angen cymorth arnoch dros gyfnod y Nadolig, edrychwch ar ein gwefan am drefniadau cymorth – https://bit.ly/373ACDa
Hydref 23rd - Neges i ddysgwyr
Fel y gwyddoch, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun 19 Hydref y bydd cyfyngiadau sylweddol uwch ar waith yng Nghymru o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan hanner nos ddydd Sul 8 Tachwedd. [Darllen Mwy]
Neges bwysig i'r holl ddysgwyr a staff ynglŷn â chyfyngiadau symud ym mwrdeistref Caerffili
Newyddion diweddaraf ar gyfer dysgwyr a staff
Bydd unrhyw ganllawiau a diweddariadau swyddogol yn parhau i gael eu rhannu’n uniongyrchol â staff a myfyrwyr drwy e-bost a sianeli mewnol. Atodir y cyngor cyfredol i rieni a gofalwyr ac isod ceir dolen at Wiriwr Symptomau Hunanasesu GIG Cymru.
Canllawiau swyddogol
Gall y rheini sy'n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau swyddogol wneud hynny drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gov.uk a dyma'r ddolen at y Gwiriwr Symptomau https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/SelfAssessments/symptomcheckers/default.aspx?ScName=CoronaVirusCOVID19&SCTId=175&locale=cy>
Sut i gysylltu â ni
Mae ein llinellau ffôn ar agor o hyd - os hoffech chi gysylltu â champws, defnyddiwch y manylion cyswllt yma
Aberdâr - 01685 887500, pwyswch opsiwn 1
Nantgarw - 01443 662800, pwyswch opsiwn 1
Rhondda - 01443 663202, pwyswch opsiwn 1
Ystrad Mynach - 01443 816888, pwyswch opsiwn 1
Ymholiad am Gais - Os hoffech chi siarad â rhywun am gais cyfredol ar gyfer cwrs sy'n dechrau ym mis Medi 2020, yna defnyddiwch ein cyfleuster Sgwrsio Byw a geir ar y tab 'Canolfan Gymorth' ar waelod y dudalen we hon neu anfonwch e-bost at ein tîm Derbyn ar ymholiadau@cymoedd. ac.uk.
Dysgwr Cyfredol - Os ydych chi'n ddysgwr cyfredol, cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin isod. Os nad yw'ch ymholiad wedi'i restru isod neu os byddai'n well gennych siarad ag aelod o staff, cysylltwch ag un o'n campysau [link to phone numbers] neu anfonwch e-bost at ymholiadau@cymoedd.ac.uk
Aelod o staff - ar gyfer aelodau staff sydd ag ymholiad, ewch i'r safle SharePoint Dysgu o Bell <https://colegycymoedd.sharepoint.com/sites/collegewide/remote/SitePages/Remote-Working.aspx>
Cwestiynau cyffredin i Ddysgwyr
Mynediad i'r safle (mynediad corfforol) - Mae holl gampysau Coleg y Cymoedd ar gau i Ddysgwyr. Ni fyddwch yn gallu cyrchu safleoedd y Coleg nes clywir yn wahanol.
Ni fydd cau’r campysau’n effeithio ar daliadau’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Hefyd, byddwn yn parhau i ariannu prydau bwyd am ddim i'r dysgwyr hynny sy'n gymwys, drwy daliadau uniongyrchol.
Arholiadau ac asesiadau - Mae Llywodraeth Cymru wedi canslo pob arholiad TGAU a Safon Uwch. Rhoddir y newyddion diweddaraf i ddysgwyr y mae arholiadau allanol (gan gynnwys pynciau galwedigaethol) yn effeithio arnynt wrth iddynt ddod i law.
Prydau am ddim - i'r dysgwyr hynny sy'n cael prydau bwyd am ddim ar hyn o bryd, byddwch wedi derbyn neges destun yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi. Bydd ein tîm lles yn cysylltu â chi dros yr ychydig ddyddiau nesaf i gadarnhau’ch manylion banc er mwyn trosglwyddo arian ichi.
Ceisiadau Cyfredol - Os ydych eisoes wedi gwneud cais ac wedi cael cyfweliad, mae eich cynnig amodol / diamod yn dal i sefyll ar gyfer y cwrs yr ydych wedi gwneud cais amdano yng Ngholeg y Cymoedd.
Mae cyngor gan Lywodraeth Cymru yn nodi y gellir dyfarnu graddau TGAU yn seiliedig ar waith cwrs ac asesiadau athrawon. Rydym yn eich sicrhau y bydd ein tîm Derbyn yn helpu ymgeiswyr i ddod o hyd i gwrs sy'n cyfateb i'w canlyniadau.
Ceisiadau newydd
Rydym yn dal i groesawu ceisiadau ar gyfer Medi 2020. I wneud cais am gwrs, ewch i’n tudalen cyrsiau [link to courses page], cliciwch ar gwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo a phwyswch y botwm ‘Gwneud Cais Nawr’.
Cyfweliadau ymgeiswyr - Bydd cyfweliadau Cyngor ac Arweiniad nawr yn cael eu cynnal dros y ffôn neu ar-lein. Cysylltir â'r holl ymgeiswyr cyfredol nad ydynt wedi cael cyfweliad eto dros y ffôn neu drwy e-bost i drefnu cyfweliad.
Wedi anghofio eich cyfrinair neu mae’ch cyfrinair wedi dod i ben - os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair; os yw’ch cyfrinair wedi dod i ben neu os ydych yn dymuno ailosod eich cyfrinair, dilynwch y ddolen SAM http://sam.cymoedd.ac.uk. Bydd angen i’ch cyfrinair fod yn weithredol er mwyn cyrchu adnoddau’r coleg fel Office 365, Teams, Moodle.
Mynediad i ddysgwyr at adnoddau’r coleg
Office 365 and Teams - <http://www.office.com>
Enw Defnyddiwr = RhifAdnabodDysgwr@cymoedd.ac.uk
Cyfrinair = cyfrinaircoleg
Moodle -<https://moodle.cymoedd.ac.uk/>
Enw Defnyddiwr = enwdefnyddiwrcoleg
Cyfrinair = cyfrinaircoleg
Tutorial Moodle - <https://moodle.cymoedd.ac.uk/tutorialhub>
Enw Defnyddiwr = enwdefnyddiwrcoleg
Cyfrinair = cyfrinaircoleg
Apiau Office 365
Cyrchwch yr apiau Office rydych chi'n eu defnyddio a'r ffeiliau sydd eu hangen arnoch yn rhwydd o'ch bwrdd gwaith i'ch dyfeisiau symudol, gan gynnwys; Teams, Outlook, OneDrive for Business, Word, PowerPoint, Excel, Skype, Teams, Office Lens, Yammer, a Stream.
Mae'r dolenni isod yn caniatáu ichi ddysgu mwy am apiau Office 365 ar gyfer eich dyfeisiau (iOS, Android a Windows 10), yn ogystal â'u lawrlwytho am ddim ...
Wedi ichi lawrlwytho’r ap hwn neu unrhyw apiau Office 365 eraill, fel Teams, pan ofynnir ichi mewngofnodwch gan ddefnyddio:
Enw Defnyddiwr = RhifAdnabodColeg@cymoedd.ac.uk
Cyfrinair = CyfrinairColeg
IOS - <https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/mobile/microsoft-365-mobile-apps-for-ios>
Android - <https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/mobile/microsoft-365-mobile-apps-for-android>