Cymdeithaseg UG a A2

Cychwyn (w/c): 02/09/2019 Full Time - To be arranged Nantgarw

Gwybodaeth am y Cwrs

Mae Cymdeithaseg yn bwnc cyffrous a deinamig. Byddwn yn astudio unigolion mewn lleoliadau cymdeithasol, gan gynnwys grwpiau, sefydliadau, diwylliannau a chymdeithasau a'r cydberthnasau rhyngddynt.

Yn ystod y cwrs hwn bydd y disgyblion yn cael y cyfle i astudio sefydliadau cymdeithasol megis y teulu, addysg, y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, a chrefydd. Bydd y disgyblion yn astudio sut rydym yn caffael ein diwylliant a sut mae strwythurau cymdeithasol yn effeithio ar unigolion. Byddwn hefyd yn astudio natur pwer a rheolaeth gymdeithasol, a natur rhaniadau cymdeithasol.

Beth ddylwn i ei ddysgu?

• Lefel UG Uned 1: Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar rôl y teulu a sut rydym yn dysgu bod yn aelodau o gymdeithas. Mae'n cynnwys diffinio'r teulu, archwilio perthnasoedd yn y teulu a materion megis amrywiaeth, rolau rhyw, priodas ac ysgariad.

Uned 2: Mae'r uned hon yn annog myfyrwyr i archwilio natur ac ymarfer ymchwilio cymdeithasol ac mae'n cynnwys astudio'r amrywiol ddulliau a ddefnyddir gan gymdeithasegwyr yn eu hymchwil. Mae hefyd yn cynnwys diffiniadau o derminoleg, patrymau a thueddiadau addysgol ynghylch cyflawniadau grwpiau cymdeithasol gwahanol yn ôl dosbarth, rhyw, ethnigrwydd a chymdogaeth, ac esboniadau cymdeithasegol o'r tueddiadau hyn.

• Lefel U2 Uned 3: Mae'r uned hon yn edrych ar batrymau a thueddiadau troseddu, esboniadau cymdeithasegol o drosedd, asiantau rheolaeth gymdeithasol, a rôl y cyfryngau mewn pethau megis panegau moesol.

Uned 4: Mae'r uned hon yn gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am ddulliau cymdeithasegol. Hefyd, mae’n cynnwys astudio anghydraddoldeb cymdeithasol sy'n cynnwys edrych ar batrymau a thueddiadau anghydraddoldeb yn ein cymdeithas, a'r esboniadau cymdeithasegol ar gyfer yr anghydraddoldeb hwn.

Gofynion Mynediad

Mae angen 5 TGAU Graddau A*- C gan gynnwys Iaith Saesneg. Does dim rhaid eich bod wedi astudio Cymdeithaseg ar gyfer TGAU.

Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.

Asesiad

Cewch eich asesu 100% drwy arholiad.

Ymwadiad

Gwna Coleg y Cymoedd pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu'n ôl unrhyw un o'r cyrsiau, cyfleusterau cwrs neu gymorth a ddisgrifir heb rybudd .

Gwneud cais nawr

Cod cwrs

GEF323NL

Dilyniant Gyrfa

  • Mae Cymdeithaseg yn ddefnyddiol ar gyfer ystod o gyrsiau prifysgol a gyrfaoedd, gan gynnwys: gwaith cymunedol, rheoli tai, addysgu, rheoli personél, heddlu, gwasanaeth prawf, gweinyddiaeth sector cyhoeddus, gwaith cymdeithasol a gwaith cyngor lles.
CYMRAEGENGLISH
callus

Ffonio

Os oes gwell gennych sgwrsio ar y ffôn, ffoniwch ni!

Ffonio

whatsapp

Facebook

Defnyddiwch Facebook Messenger i gysylltu â ni!

Facebook

LiveChat

Sgwrs fyw

Cewch ymateb ar unwaith drwy’r Sgwrs Fyw

Sgwrs fyw

Canolfan Gymorth

Croeso i Coleg y Cymoedd

Dewiswch eich dewis iaith. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.Cliciwch am ragor o fanylion.

Welcome to Coleg y Cymoedd

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

Opsiynau Hygyrchedd Aa