Gwybodaeth am y Cwrs
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i ddarparu sylfaen clir ar gyfer dilyniant i gwrs galwedigaethol lefel uwch neu ar gyfer cael swydd. Cewch fanteisio ar amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i wneud y gorau o'ch potensial. Nod y cymwysterau ydy datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth mewn llawer o feysydd gan gynnwys Sgiliau Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh.
Beth ddylwn i ei ddysgu?
Byddwch yn astudio nifer o unedau o fewn y prif feysydd pwnc. Bydd y prif feysydd gorfodol yn cynnwys Sgiliau Cyfathrebu ac Astudio (yn cyfateb i TGAU Saesneg – Gradd B)*; TG a Mathemateg, ynghyd â meysydd Prif Bwnc Opsiynol sef Gwyddoniaeth (yn cyfateb i TGAU Gwyddoniaeth – Gradd C)*; Cymdeithaseg ac Iechyd ac ADCDF. . Byddwch hefyd yn datblygu Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh.
*Dim ond yn cael ei dderbyn mewn Sefydliadau Addysg yng Nghymru yn unig
Gofynion Mynediad
Does dim gofynion mynediad penodol ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn cael cyfweliad ac asesiad llythrennedd a rhifedd i weld os oes angen unrhyw help arnoch chi.
You will be invited to attend an interview.
Asesiad
Cewch eich asesu mewn nifer o wahanol ffyrdd a byddwch yn darparu portffolios fydd yn cael eu cymedroli'n fewnol a'u cymedroli'n allanol gan yr arholydd perthnasol.
Ymwadiad
Gwna Coleg y Cymoedd pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu'n ôl unrhyw un o'r cyrsiau, cyfleusterau cwrs neu gymorth a ddisgrifir heb rybudd .
Ffioedd
Nodwch: Mae'r ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio. Nid yw ffioedd addysg uwch ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2020 wedi'u penderfynu eto. Amcangyfrifwn y byddant yn cael eu cadarnhau erbyn Ebrill 2020.
Cod cwrs
01F206AA
Dilyniant Gyrfa
- Ar ôl cwblhau'r rhaglen Lefel 2 hon, byddwch yn gallu symud ymlaen i'r lefel priodol nesaf o'r cwrs. Bydd yr unedau fyddwch chi'n eu hastudio'n gwella eich cyfleoedd am swyddi.