Gwybodaeth am y Cwrs
Lluniwyd Cwrs Therapi Harddwch Lefel 3 i ddatblygu’r wybodaeth, y dealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol mewn therapi harddwch a ddysgwyd yn Lefel 2. Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gynhyrchu therapyddion harddwch proffesiynol hyfedr, yn gymwys yn alwedigaethol, yn darparu hyfforddiant ar gyfer cymhwyster parod ar gyfer swydd, cymhwyster wedi’i seilio ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Therapi Harddwch.
Mae’r cwrs yn fwy addas ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen yn eu proffesiwn i ddatblygu’n therapyddion harddwch gweithredol, yn rheolwyr salon neu’n berchen ar salon. Gellir hefyd ystyried cyfleoedd i symud ymlaen i Addysg Uwch. Gellir darparu cymwysterau ychwanegol fel pecyn gyda’r cymhwyster therapi harddwch i gynorthwyo a datblygu rhagor ar y cyfleoedd cyflogaeth proffesiynol. Anogir pawb i gymryd rhan mewn digwyddiadau a chyrsiau DPP
Beth ddylwn i ei ddysgu?
Bydd y dysgwr yn gallu cael mynediad i gyfleoedd i ddatblygu a chaffael ystod o sgiliau galwedigaethol, gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn perfformio ystod o wasanaethau proffesiynol megis:
• electrotherapi i’r wyneb a’r corff er mwyn cael canlyniadau therapiwtig a gwelliant • tylino’r corff • unedau ychwanegol perthnasol i’r diwydiant
O fewn y cymhwyster hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn ac ymarfer gweithio ym maes y diwydiant harddwch: iechyd a diogelwch, gofalu am y cleient a chyfathrebu a chyfrannu at redeg busnes therapi harddwch yn effeithiol. Byddwch hefyd yn datblygu sail gwybodaeth a dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg sy’n berthnasol i’r sgiliau ymarferol a ddysgwyd yn ystod y cwrs.
Gofynion Mynediad
Bydd angen Diploma Lefel 2 neu gyfwerth mewn Therapi Harddwch. Asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Asesiad
Defnyddir ystod o ddulliau i asesu’ch gwaith, sy’n cynnwys asesu parhaus drwy arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Mae arholiadau allanol a phortffolio Sgiliau Hanfodol.
Ymwadiad
Gwna Coleg y Cymoedd pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu'n ôl unrhyw un o'r cyrsiau, cyfleusterau cwrs neu gymorth a ddisgrifir heb rybudd .
Ffioedd
Nodwch: Mae'r ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio. Nid yw ffioedd addysg uwch ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2020 wedi'u penderfynu eto. Amcangyfrifwn y byddant yn cael eu cadarnhau erbyn Ebrill 2020.
Additional Fee Notes
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Uniform - £35, Beauty Kit - £61.15). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.
Cod cwrs
7BF303NA
Dilyniant Gyrfa
- Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i feysydd amrywiol a niferus y dwydiant iechyd a harddwch, agor eich busnes eich hun neu symuid ymlaen i raglen lefel 4.
Potential Careers
Career Info
-
Hairdressing or beauty salon manager/proprietor
Average salary: £20,943
-
Beautician or related occupation
Average salary: £13,728
Description
Job holders in this unit group plan, organise, direct and co-ordinate the activities and resources of hairdressing salons, beauty treatment and similar establishments.
Entry Requirements
No formal qualifications are required for entry although entrants usually possess a BTEC/SQA award, an NVQ/SVQ in Hairdressing at Level 3, an apprenticeship and/or relevant experience.
Entry Level
Average
Potential