Gwybodaeth am y Cwrs
Lluniwyd y cwrs hwn fel rhagarweiniad i’r sgiliau sydd eu hangen i weithio fel cogydd proffesiynol yn y diwydiant, sylfaen i yrfa ym mhroffesiwn cyffrous Lletygarwch gyda’i ffocws ar y cwsmer.
Byddwch yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau a luniwyd i wireddu’ch potensial a’ch galluogi i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Yn y rhaglen hon byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Hanfodol Cymru.
Beth ddylwn i ei ddysgu?
Byddwch yn astudio unedau a fydd yn adlewyrchu anghenion y diwydiant arlwyo tra’n eich paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa o fewn y sector hwn.
Byddwch yn astudio: Agweddau sylfaenol lletygarwch, Safonau Cyflogaeth, Iechyd a diogelwch, Gwasanaeth Cwsmeriaid a Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif a Thechnoleg Gwybodaeth.
Bydd ein cyrsiau Lletygarch ac Arlwyo yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn y diwydiant. Cewch brofiad uniongyrchol ac ymarferol o weithio yn ein ceginau proffesiynol a’n bwytai. Mae ein bwytai hyfforddi ar agor i’r cyhoedd a bydd hyn yn gyfle gwych i chi brofi gweithio yn y diwydiant. Pan ddaw hi’n amser i chi chwilio am waith cyflogedig, byddwch eisoes wedi cael profiad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol.
Gofynion Mynediad
Bydd angen 3 TGAU graddau A*- E gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster cwrs sylfaen gan gynnwys Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 3 Mynediad.
Cewch eich gwahodd i gyfweliad. Yn ystod y cyfweliad hwn asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. Bydd eich cyfweliad y cynnwys cyflwyniad i’r cwrs. Mae angen gwisg berthnasol a’r offer perthnasol ar gyfer y cwrs hwn, bydd rhestr gyflawn o'r dillad y cael ei rhoi i chi.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys asesu parhaus, arsylwi’ch gwaith ymarferol, cwblhau portffolio, tystiolaeth ddamcaniaethol a gwaith aseiniad. Byddwch yn sefyll arholiadau allanol a pharatoi portffolios Sgiliau Hanfodol.
Ymwadiad
Gwna Coleg y Cymoedd pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu'n ôl unrhyw un o'r cyrsiau, cyfleusterau cwrs neu gymorth a ddisgrifir heb rybudd .
Ffioedd
Nodwch: Mae'r ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio. Nid yw ffioedd addysg uwch ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2020 wedi'u penderfynu eto. Amcangyfrifwn y byddant yn cael eu cadarnhau erbyn Ebrill 2020.
Notes
Purchase of Equipment and Kit is required for this course (Compulsory Cost - Chef Uniform - £55.06, Restaurant Materials - £26.15, Knife Set - £40) (Suggested Optional - Text books, Hand Blender, Mixer). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.
Cod cwrs
7CF101NA
Dilyniant Gyrfa
- Wrth i chi ddatblygu, gallwn eich arwain i gyrsiau uwch eu lefel neu’ch helpu os ydych yn dymuno symud yn syth i swydd. Pa lwybr bynnag y byddwch yn ei ddewis.
Potential Careers
Career Info
-
Restaurant or catering establishment manager/proprietor
Average salary: £17,979
-
Baker or flour confectioner
Average salary: £16,556
-
Chef
Average salary: £15,113
-
Cook
Average salary: £16,575
-
Catering or bar manager
Average salary: £18,584
Description
Restaurant and catering establishment managers and proprietors plan, direct and co-ordinate the catering services of restaurants, hotels and large-scale catering services within other organisations.
Entry Requirements
Entry is possible with a variety of academic qualifications and/or relevant experience. Larger restaurants and catering chains offer managerial trainee schemes, entry to which may be based on a variety of qualifications and/or relevant experience. Off- and on-the-job training is provided. Various vocational qualifications are available at Levels 2 to 4.
Entry Level
Average
Potential