Gwybodaeth am y Cwrs
Mae'r Dystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu wedi'i chynllunio i roi dealltwriaeth i ddysgwyr o'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylcheddau ysgol neu goleg. Mae'n cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, cefnogi ymddygiad cadarnhaol plant a phobl ifanc a chyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol.
Mae wedi'i anelu at ddysgwyr sy'n gweithio mewn rolau sy'n cefnogi dysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu arbennig, yn ogystal â cholegau.
Beth ddylwn i ei ddysgu?
Cewch eich cyflwyno i'r wybodaeth sydd ei hangen i weithio mewn ysgol neu goleg.
Mae'r cymhwyster yn cynnwys 11 uned orfodol sy'n trafod pynciau fel; datblygiad plant a phobl ifanc, diogelu lles plant a phobl ifanc, cyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol ac ysgolion fel sefydliadau, a deall chwarae a hamdden plant a phobl ifanc.
Bydd gofyn ichi ennill profiad mewn lleoliad ysgol.
Gofynion Mynediad
Mae'r corff dyfarnu yn argymell bod gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â chwrs Lefel 2 a bod gennych y gallu i wneud hynny. 4 TGAU Gradd D neu’n uwch (gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg). Bydd profiad bywyd a chymwysterau eraill yn cael eu hystyried. Ynghyd â gwiriad DBS.
Asesiad
Caiff unedau eu hasesu trwy gyfrwng tasgau ysgrifenedig ac ystod o asesiadau mewn amgylcheddau gwaith go iawn.
Ymwadiad
Gwna Coleg y Cymoedd pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu'n ôl unrhyw un o'r cyrsiau, cyfleusterau cwrs neu gymorth a ddisgrifir heb rybudd .
Ffioedd
Nodwch: Mae'r ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio. Nid yw ffioedd addysg uwch ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2020 wedi'u penderfynu eto. Amcangyfrifwn y byddant yn cael eu cadarnhau erbyn Ebrill 2020.
Cod cwrs
13P202YA
Dilyniant Gyrfa
- Ar ôl cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus byddwch yn derbyn Tystysgrif Lefel 2 NCFE mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu. Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi