Ymgeiswyr Mis Medi 2020
Rydym wrth ein bodd â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i arddel pob Gradd a Asesir gan y Ganolfan i ddysgwyr yng Nghymru.
Mae gennym ffydd ynoch chi a'ch gallu ac rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi wrth ichi baratoi i ymuno â ni ym mis Medi.
Byddwn yn gweithio gyda chi yn adeg cofrestru ac yn ystod wythnosau cyntaf y tymor i sicrhau eich bod yn cael eich rhoi ar raglen a lefel a fydd yn arwain at ganlyniad llwyddiannus.
Bydd cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru yn cyrraedd drwy eich e-bost personol.
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad ar gyfer eich cwrs, cysylltwch â ni ar unwaith i drafod opsiynau eraill gyda chi.
Os nad ydych wedi clywed gennym erbyn dydd Gwener 21 Awst, cysylltwch â ni oherwydd efallai bod eich manylion cyswllt yn anghywir.
Rhowch wybod inni os ydych am drafod cwrs neu lefel amgen o ganlyniad i'ch profiadau dros yr ychydig fisoedd diwethaf, fel y gallwn eich cefnogi a thrafod yr opsiynau sydd ar gael. Byddwn i gyd yn canolbwyntio ar eich cefnogi i gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus a byddwn yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda chi am eich cynnydd. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r coleg a byddwn mewn cysylltiad rheolaidd â chi cyn ichi ddechrau.
Cysylltwch â ni ar: -
Sgwrs Fyw: www.cymoedd.ac.uk
E-bost: enquiries@cymoedd.ac.uk
Ffôn: Aberdâr: 01685 887500
Ffôn: Nantgarw: 01443 662800
Ffôn: Y Rhondda: 01443 663202
Ffôn: Ystrad Mynach: 01443 816888