Dysgwyr y Cymoedd ar y brig mewn Pencampwriaethau Coginio
Enillodd dysgwyr cwrs lletygarwch ac arlwyo Coleg y Cymoedd lu o fedalau a gwobr ‘Gorau yn y Dosbarth’ mewn cystadleuaeth goginio genedlaethol.
Teithiodd grŵp o ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg y Cymoedd i Goleg Llandrillo, Gogledd Cymru i gystadlu ym ‘Mhencampwriaeth Goginio Rhyngwladol a chystadleuaeth Cacen Cymru’.
Yn y digwyddiad tridiau hwn lle roedd cogyddion o safon byd-eang y DU yn arddangos eu gwaith, enillwyd 25 o fedalau gan y dysgwyr Arlwyo a Lletygarwch Lefel 1, 2 a 3.
Roedd y naw dysgwr yn cystadlu mewn nifer o ddosbarthiadau arbenigol yn cynnwys rhai Pysgod Cregyn, Brechdan Bistro, ‘Cacennau Ultimate Cupcakes’, Pwdin Flambé a gwahanol gategorïau o sgiliau trafod cyllell.
Dyfarnwyd Alys Evans, 17 oed o Gilfach Goch, ‘Y Gorau yn y Dosbarth’; a dim ond i ddyrniad o gystadleuwyr y dyfernir y teitl nodedig hwn iddyn nhw ar hyd a lled y wlad.
Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Alys: “Dw i wrth fy modd mod i wedi ennill tair medal ac yn enwedig y wobr ‘Gorau yn y Dosbarth yn yr ornest Gwaith Cegin hon’. Mae’r coleg wedi bod yn gefnogol iawn ac rydw i’n hynod o ddiolchgar am y cyfle gwych hwn.”
Roedd Ryan Desmier, 17 oed o Bontlotyn, hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Sgilau Cymru mewn Uwch Goginio. Gwnaeth yn ardderchog yn y gystadleuaeth 3 awr hon a chreu saig o bysgod, cyw iâr ac afal. Daeth yn ail, sy’n ei alluogi i gystadlu yng nghystadleuaeth sgiliau’r DU.
Yn dilyn y gystadleuaeth, dywedodd Ryan: “Roedd y gystadleuaeth yn brofiad da ac yn gyfle i mi ehangu fy sgiliau coginiol. Roedd y tiwtoriaid yn gefnogol iawn ac yn fy annog drwy’r sesiynau ymarfer a thrwy gydol y gystadleuaeth.”
Ychwanegodd y tiwtor, Ian Presgrave: “Sefydlwyd tîm coginiol Coleg y Cymoedd yn gynharach yn y tymor academaidd hwn. Mae’r dysgwyr a ddewiswyd ar gyfer y tîm wedi rhoi oriau o’u hamser i ymarfer bob wythnos i baratoi ar gyfer Cystadleuaeth Goginiol Gogledd Cymru yn Ngholeg Llandrillo. Cynrychiolodd yr holl ddysgwyr y Coleg yn berffaith ac yn llwyddiannus iawn.”
Isod, gwelir yr holl fedalau a enillwyd gan dîm coginiol Coleg y Cymedd:
Ryan Desmier Sgiliau Arian Cystadleuaeth Cymru – Uwch Goginio Proffesiynol
Robert Haycox Arian Pwdin Flambé
Robert Haycox Efydd Prif Gwrs Flambé
Robert Haycox Efydd Plygu Napcyn
Alys Evans Aur & Gorau yn y Dosbarth Cacennau ‘Ultimate Cupcakes’
Alys Evans Arian Cacen Wahanol Agored
Alys Evans Efydd Cacen Ddathlu Nofis
Kirsty Lees Dyfarniad Teilyngdod Cacennau Ultimate Cupcakes
Kirsty Lees Dyfarniad Teilyngdod Gwneud Gateau
Evan Davies Arian Brechdan Bistro
Evan Davies Arian Sgiliau Cyllell – Torri Ffrwyth
Evan Davies Arian Sgiliau Cyllell – Torri Llysiau
Evan Davies Dyfarniad Teilyngdod Pysgod Cregyn
Rhys Martin Arian Sgiliau Cyllell – Torri Ffrwyth
Rhys Martin Arian Sgiliau Cyllell – Torri Llysiau
Rhys Martin Dyfarniad Teilyngdod Cig Oen Cymru
Rhys Hill Arian Cig Eidion Cymru - Prif gwrs
Rhys Hill Arian Sgiliau Cyllell – Torri Ffrwyth
Rhys Hill Dyfarniad Teilyngdod Sgiliau Cyllell – Torri Llysiau
Liam Williams Arian Gosod Bwrdd ar Thema
Liam Williams Efydd Plygu Napcyn
Liam Williams Efydd Coctêls
Hollie Horsell Dyfarniad Teilyngdod Cacen Wahanol Agored