Yn ôl

Roedd yn wych gweld Alys Evans yn disgleirio yn rownd derfynol Worldskills UK

27/11/2017

Roedd yn wych gweld Alys Evans yn disgleirio yn rownd derfynol Worldskills UK yn y Sioe Sgiliau yn Birmingham yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Eisoes yn enillydd Dysgwr y Flwyddyn VQ ynghyd â llawer o wobrau coginio - mae Alys yn parhau i syfrdanu â'i dyfalbarhad, ei sgil a'i hyder.

Mewn cystadleuaeth anodd, mae Alys wedi llwyddo sicrhau lle yn Sgwad Hir Worldskills ar gyfer Kazan 2019. Bydd yn rhaid i Alys gystadlu ag aelodau eraill o'r garfan hir er mwyn cael ei dewis ar gyfer tîm y DU sy'n mynd i Rwsia, ac mae'r Coleg yn edrych ymlaen at ei chefnogi.

Mae Cystadlaethau Sgiliau Cymru wedi cychwyn a chystadleuydd cyntaf Coleg y Cymoedd i gyrraedd rownd derfynol Cymru yw Rajan Singh. Bydd Rajan yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Coginio Cymru yng Ngholeg Llandrillo ym mis Chwefror 2018.

Hoffem ddwyn y cyfle hwn i ddymuno'n dda i holl gystadleuwyr Coleg y Cymoedd yn eu cystadlaethau Sgiliau sydd ar y gweill. Bydd rhagor o newyddion yn fuan iawn!

Roedd yn wych gweld Alys Evans yn disgleirio yn rownd derfynol Worldskills UK

CYMRAEGENGLISH
callus

Ffonio

Os oes gwell gennych sgwrsio ar y ffôn, ffoniwch ni!

Ffonio

whatsapp

Facebook

Defnyddiwch Facebook Messenger i gysylltu â ni!

Facebook

LiveChat

Sgwrs fyw

Cewch ymateb ar unwaith drwy’r Sgwrs Fyw

Sgwrs fyw

Canolfan Gymorth

Croeso i Coleg y Cymoedd

Dewiswch eich dewis iaith. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.Cliciwch am ragor o fanylion.

Welcome to Coleg y Cymoedd

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

Opsiynau Hygyrchedd Aa