Digwyddiadau Agored
Yn ystod 2021, byddwn yn cynnal amrywiaeth o Ddigwyddiadau Agored Rhithwir Cyffredinol a Digwyddiadau Agored Rhithwir ar gyfer Pynciau Penodol.
Digwyddiadau Agored Rhithwir Cyffredinol
Cynhelir y rhain bob tymor fwy neu lai a byddant yn cynnwys pob maes pwnc; sesiwn holi ac ateb fyw gyda'n Pennaeth a'n dysgwyr; Sgwrs Fyw lle bydd dros 100 o staff pwnc ar gael.
Dyddiad nesaf - i'w gadarnhau
Digwyddiadau Agored Rhithwir ar gyfer Pynciau Penodol
Gweler ein Digwyddiadau ar gyfer Pynciau Penodol sydd ar y gweill isod. Gan ddefnyddio Microsoft Teams, byddwch yn gallu siarad â thiwtoriaid cwrs meysydd pwnc yn rhithwir a gwrando arnynt.