Cymorth i Ddysgwyr
Gall dechrau coleg fod yn gyfnod cyffrous ond os ydych yn teimlo bod angen rhywfaint o gyngor neu gymorth arnoch, rydym yma i’ch helpu.
Mae gwneud y penderfyniad i ddod i'r coleg yn gam mawr ac mae gwybod beth i'w ddisgwyl yn bwysig i bobl ifanc a'u rhieni / gofalwyr, yn enwedig os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol.
Rydym am ichi fod mor llwyddiannus â phosibl yng Ngholeg y Cymoedd ac mae help ar gael, bob cam o'ch taith.