Adeiladu
Adeiladu yw diwydiant mwyaf y DU gyda 2 filiwn yn gweithio mewn dros 700 o wahanol fathau o swyddi.
Dysgwch grefft neu astudiwch er mwyn bod yn Adeiladwr proffesiynol.
Mae prinder sgiliau yn niwydiant Adeiladu'r DU. Yn ôl Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) bydd yn rhaid i'r diwydiant ddod o hyd i 157,000 o recriwtiaid newydd erbyn 2021 er mwyn ateb y galw.
Rydym yn cynnig y crefftau canlynol: ...
• Gosod Brics
• Plastro
• Cynnal a Chadw Adeiladau
• Peintio ac Addurno
• Gosod Trydan
• Gwaith Saer ac Asiedydd
• Gwaith Plymwr
Byddwch yn dysgu sgiliau, yn cael gwybodaeth ac yn ennill profiad wrth weithio gyda’n tîm o bobl broffesiynol brofiadol a phob un yn grefftwr cymwys.
Cynhelir dosbarthiadau mewn gweithdai arbenigol lle cewch gyfle i ymarfer y sgiliau yr ydych wedi'u dysgu.
Bydd pob cwrs crefft sy'n dechrau ar lefel 1 yn gwrs dilyniant rhaglen tair neu bedair blynedd. Er mwyn ennill cymwyster llawn yn y grefft, bydd yn rhaid ichi gyrraedd safon Lefel 3. Fodd bynnag, efallai y bydd gofyn ennill cymwysterau rheoleiddiol eraill er mwyn bod yn grefftwr cymwys.
Os yw gyrfa fel Adeiladwr proffesiynol yn mynd â'ch bryd chi, ymunwch â ni mewn: -
• Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
Nododd adroddiad gan 'Construction Skills' y bydd 32% o'r swyddi yn y diwydiant Adeiladu dros y blynyddoedd i ddod yn swyddi ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol a Rheolwyr megis: Rheolwyr Adeiladu, Penseiri, Staff Technegol, Uwch Weithredwyr a Rheolwyr Prosesau Busnes.
Mae ein tîm addysgu Amgylchedd Adeiledig yn cynnwys gweithwyr proffesiynol a achredir gan RICS, RIBA a CIOB ac sydd wedi gweithio yn y diwydiant.