Addysg a Hyfforddiant
Mae ein cyrsiau Addysg a Hyfforddiant yn ceisio hyfforddi ar gyfer gwaith ym maes Addysg a Hyfforddiant Ôl Orfodol (PCET). Mae hyn yn cynnwys addysg bellach; addysg oedolion; hyfforddiant yn y gweithle ac addysg yn y gymuned.
Bydd dysgwyr yn caffael y sgiliau sydd euhahgen i weithio fel athro ym maes Addysg a Hyfforddiant Ôl Orfodol drwy ymgymryd â phrofad gwaith yn ogystal â gwaith cwrs. Byddwch yn elwa o'n partneriaethau cryf yn ogystal â chael eich addysgu gan staff addysgu arbenigol a phobl broffesiynol yn y gweithle.
Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o gymwysterau mewn Sgiliau Sylfaenol/Hanfodol ar gyfer y rhai a hoffai gynorthwyo unigolion a grwpiau i fynd i'r afael â phroblemau Sgiliau Sylfaenol. Sgiliau Sylfaenol ydy'r gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad Saesneg a defnyddio Mathemateg ar y lefel angenrheidiol i weithio a symud ymlaen yn y gwaith ac yn y gymdeithas yn gyffredinol.