Cydnabod blwyddyn lwyddiannus arall yng Ngholeg y Cymoedd

Dathlodd Coleg y Cymoedd flwyddyn lwyddiannus arall yn ei noson Wobr Flynyddol yr wythnos hon. Ymgasglodd enillwyr gwobrau a’u gwesteion, Llywodraethwyr, noddwyr a staff ynghyd yng nghampws Nantgarw i gydnabod cyflawniadau’r dysgwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18.

Chwaraeodd yr Uwch Dîm Arwain, dan arweinyddiaeth y Pennaeth Judith Evans, ran yn y rhaglen, a arweinwyd yn fedrus gan Amy Williams – sy’n astudio ar gwrs y Celfyddydau Perfformio yng nghampws y Rhondda.

 

Ar ôl i’r Pennaeth groesawu’r gwesteion, cyflwynodd siaradwr gwadd y noson,  Bethan Darwin, partner yng Nghwmni Cyfreithwyr Thompson Darwin. Llongyfarchodd Bethan y rhai a oedd yn derbyn gwobrau. Soniodd yn benodol am eu cymhelliant a’u hymrwymiad a fe’u dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol. Rhannodd ei phrofiadau, gan brofi bod gan Gymry’r X Factor !!

Derbyniodd dros 50 o ddysgwyr o bob lefel ac adran eu gwobrau cyn y ddwy wobr olaf – Goresgyn Rhwystrau a Chyflawniadau Eithriadol.

Cyflwynwyd y wobr Goresgyn Rhwystrau i’r dysgwr sydd wir wedi goresgyn rhwystrau yn ystod eu cwrs ac sydd wedi llwyddo ennill eu cymhwyster. Enillydd y wobr eleni oedd Booker T Skelding – Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth.

Eleni cyflwynwyd Gwobr Cyrhaeddiad Eithriadol Ryan Brain i gydnabod ei ‘daith ddysgu’ eithriadol.

 

Mynychodd Mrs Madeline Bidder, Cadeirydd Pwyllgor Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, y digwyddiad er mwyn rhoi gwobr Cwmni Lifrai eleni i’r dysgwr Safon Uwch Harriet Hooper. Llwyddodd Harriet i ennill A *(Mathemateg, A (Mathemateg Bellach), A (Hanes) a Bagloriaeth Cymru yn ei Safon Uwch ac mae wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Exeter lle bydd yn astudio Economeg.

Darparwyd adloniant y noson gan Rio Scibona- sy’n astudio Diploma Ysgol Roc Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Cerddoriaeth yn y coleg. Derbyniodd ei berfformiad o fathau gwahanol o gerddoriaeth gymeradwyaeth fawr.

Roedd dysgwyr Arlwyo a Lletygarwch hefyd yn ymwneud â dathliadau’r noson, gan ddarparu a gweini amrywiaeth blasus o luniaeth ysgafn i’r gwesteion, wrth iddynt gyrraedd y campws.

Wrth gloi’r digwyddiad, dywedodd y Pennaeth “Mae’r digwyddiad hwn yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn academaidd – adeg pan fyddwn yn cydnabod cyflawniadau gwych ein dysgwyr. Mae’n rhoi’r cyfle inni ddangos iddynt mor falch ydym o’u gwaith caled a’u hymrwymiad yn ystod eu hamser yn y coleg. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol, p’un a ydynt yn mynd i brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth neu’n symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y coleg – rydym yn gobeithio ein bod wedi chwarae rhan yn eu dyfodol. Rwyf yn credu ei bod yn deg a phriodol diolch i’r staff am eu hymroddiad a hefyd y rhieni, teuluoedd a ffrindiau am gefnogi’r dysgwyr.

Diolch yn fawr iawn i’r holl noddwyr – Prifysgol De Cymru, Cronfa Gymorth Tom Wilcox, CBAC, Inferno Fire Safety & Security Solutions Ltd, ARUP, VTCT, Environtec, Brecongate, Tesco ac EE; a gefnogodd y digwyddiad ac am eu presenoldeb yma heno “.

Ewch i’n tudalen Facebook i weld ein oriel luniau

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ennill gwobr … cofiwch ymuno â’n Cynfyfyrwyr

www.cymoedd.ac.uk/cy/alumni

Rhestr Enillwyr:

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau