Cydnabod Coleg y Cymoedd am ei gefnogaeth i athletwyr ifanc gydag achrediad cenedlaethol

Coleg y Cymoedd ydy’r coleg cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad chwaraeon cenedlaethol sy’n cydnabod sefydliadau sy’n teithio’r ail filltir i gefnogi athletwyr dan hyfforddiant.

Mae Coleg y Cymoedd wedi ennill achrediad gyrfa ddeuol Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS) a ddyfernir i sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad i gefnogi mabolgampwyr ifanc i ddilyn llwybr gyrfa ddeuol – gan ganiatáu iddyn nhw gyrraedd eu potensial mewn addysg tra’n llwyddo yn eu gyrfa ym maes chwaraeon. Mae’r coleg yn ymuno â phrifysgolion Abertawe a Metropolitan Caerdydd fel un o’r unig dri sefydliad addysg uwch yng Nghymru sydd â’r statws hwn.

I nodi’r dyfarniad, cynhaliodd y coleg achlysur lansio ar ei gampws yn Nantgarw oedd yn croesawu athletwyr dan hyfforddiant a’u rhieni, yn ogystal â gwesteion o sefydliadau chwaraeon ac addysg partner, i glywed am y cynllun a’r hyn y bydd hyn yn ei olygu i ddysgwyr y dyfodol. Roedd y noson yn cynnwys sgwrs gan y gwestai arbennig, Helen Phillips MBE, Cadeirydd Anweithredol Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru.

Dywedodd Alun Davies, cynghorydd Ffordd o Fyw Gyrfa Ddeuol yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae achrediad TASS yn gydnabyddiaeth uchel i’r coleg ac rydyn ni mor falch o weld bod y strategaethau, rydyn ni wedi’u rhoi ar waith i gefnogi ein myfyrwyr athletaidd, yn cael eu dathlu.

“Rydyn ni’n ymfalchïo mewn bod yn fan lle mae nodau academaidd a chwaraeon y dysgwyr yn cael eu cefnogi’n llawn, gan eu galluogi i ennill cymwysterau ochr yn ochr â’u gweithgareddau chwaraeon, heb beryglu’r naill na’r llall.

“Bydd dod yn safle achrededig gyrfa ddeuol TASS yn helpu i osod Coleg y Cymoedd ar y llwybr cystadleuol gyda sefydliadau chwaraeon eraill yng Nghymru a thros y ffin. Bydd yr achrediad hefyd yn ein galluogi i barhau i feithrin cysylltiadau â sefydliadau chwaraeon lleol a denu mwy o athletwyr dawnus i’r coleg yn y dyfodol.”

Yn dilyn proses asesu drylwyr, dyfarnwyd yr achrediad i Goleg y Cymoedd i gydnabod y mentrau amrywiol a’r cymorth ychwanegol y mae’n eu darparu i athletwyr sy’n astudio ar ei gampysau. Mae ei bolisïau academaidd hyblyg yn cynnwys trefnu sesiynau dal i fyny gyda staff addysgu pan fydd chwaraeon dysgwyr yn gwrthdaro â gwersi, a mynediad at nodiadau ar-lein ac adnoddau ychwanegol, a hyd yn oed aildrefnu dedleins neu ddyddiadau arholiadau mewn amgylchiadau eithriadol.

Caiff 31 o athletwyr talentog eu dewis i gymryd rhan yn y rhaglen TASS yng Ngholeg y Cymoedd, gan gwmpasu amrediad amrywiol o chwaraeon gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, rygbi, cleddyfa, karate, gymnasteg, pêl-droed, pêl-rwyd, athletau, nofio, gymnasteg a taekwondo.

Ymhlith y dysgwyr hyn mae pencampwyr byd iau Cymru sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a Sgwadiau Perfformio Prydain. Bydd pob un ohonyn nhw’n derbyn cymorth academaidd un-wrth-un a chymorth ‘ffordd o fyw’ gan ymarferwr cymwysedig, gyda chynlluniau wedi’u teilwra yn seiliedig ar eu hanghenion unigol, a fydd yn dibynnu ar natur eu camp.

Bydd ganddyn nhw hefyd fynediad at yr adnoddau hyfforddi gorau a chyngor ar feysydd fel maeth a chryfder a chyflyru, yn ogystal â gweithdai datblygiad personol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau a’u gwytnwch.

Yn ôl Guy Taylor, Cyfarwyddwr Cenedlaethol TASS: “Mae Cynllun Achredu Gyrfa Ddeuol TASS yn fesur pwysig i sicrhau bod athletwyr talentog yn cael yr hyblygrwydd i ddilyn eu haddysg a hefyd fwynhau bywyd mwy cyflawn. Trwy’r rhaglen, mae dysgwyr yn caffael medrau a chymwysterau ffurfiol sydd eu hangen i’w helpu i ganfod gyrfaoedd amgen, naill ai ochr yn ochr â’u gweithgareddau chwaraeon neu unwaith y bydd eu dyddiau ym maes chwaraeon wedi dod i ben.

“Mae’n bwysig i ni gydnabod y sefydliadau hynny sy’n rhoi blaenoriaeth i addysg eu hathletwyr. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn dyfarnu Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS i Goleg y Cymoedd i gydnabod y polisïau gwych sydd ganddyn nhw ar waith i gynnig strwythur gyrfa ddeuol effeithiol a pharhaol o fewn y coleg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau